Gemau Olympaidd yr Haf 1932

Cynhaliwyd Gemau Olympaidd yr Haf 1932, digwyddiad aml-chwaraeon a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r X Olympiad rhwng 3 Gorffennaf a 14 Awst yn ninas Los Angeles, Unol Daleithiau America. Los Angeles oedd yr unig ddinas i wneud cais i gynnal y Gemau ac fe wanethpwyd y penderfyniad i gyflwyno'r gemau yn ystod 23in Sesiwn yr IOC yn Rhufain, Yr Eidal ar 9 Ebrill 1923.

Gemau Olympaidd yr Haf 1932
Enghraifft o'r canlynolGemau Olympaidd yr Haf Edit this on Wikidata
Dyddiad1932 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd30 Gorffennaf 1932 Edit this on Wikidata
Daeth i ben14 Awst 1932 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1928 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau Olympaidd yr Haf 1936 Edit this on Wikidata
LleoliadLos Angeles Memorial Coliseum, Los Angeles Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://olympics.com/en/olympic-games/los-angeles-1932 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y Gemau

golygu

Adeiladwyd Pentref Olympaidd pwrpasol am y tro cyntaf yn ardal Baldwin Hills yn ne Los Angeles ar gyfer athletwyr gwrywaidd. Lleolwyd yr athletwyr benywaidd yng ngwesty'r Chapman Park Hotel[1][2].

Defnoddiwyd podiwm am y tro cyntaf yng Ngemau'r Haf ar gyfer seremoni'r medalau. Roedd podiwm wedi ei ddefnyddio yn gynharach yn y flwyddyn yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Lake Placid[3]

Cynhaliwyd y Gemau yn ystod Dirwasgiad Mawr ac o'r herwydd cafwyd llai o wledydd yn gyrru timau i Los Angeles. Dim ond 37 o wledydd fu'n cystadlu o gymharu â'r 46 fu'n cystadlu yn Amsterdam ym 1928.

Medalau i'r Cymry

golygu

Llwyddodd Valerie Davies, Cymraes o Gaerdydd i ennill medal efydd yn y 100m dull nofio ar y cefn ac yn y ras gyfnewid 4x100m dull rhydd.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1932 Los Angeles Olympic Athlete's Village in Baldwin Hills, Accessed November 12, 2007.
  2. "1932 Los Angeles Olympic Athlete's Village - Baldwin Hills- Baldwin Hills Information".
  3. Martin, D. E.; Martin, D. A.; Gynn, R. W. The Olympic Marathon. Human Kinetics. t. 146.
  4. "Valerie Davies". Olympedia.org.