Gendun Drup, y Dalai Lama 1af
Dalai Lama cyntaf Tibet oedd Gendun Drup (Tibeteg: དགེ་འདུན་གྲུབ་ dge ’dun grub) (1391 – 1474). Mae Tibetiaid yn credu ei fod, fel ei olynwyr, yn ymgnawdoliad o Chenresig (Sansgrit: Avalokiteshvara), Bodhisattva Trugaredd.
Gendun Drup, y Dalai Lama 1af | |
---|---|
Ganwyd | 1391 Sakya |
Bu farw | 1474 Samzhubzê District |
Galwedigaeth | gwleidydd, llenor |
Swydd | Dalai Lama |
Tad | Gonpo Dorjee |
Mam | Jomo Namkha Kyi |
Cafodd Gendun Drup ei eni mewn teulu o fugeiliaid nomadig a gweithiodd fel bugail yn blentyn. Ei enw genedigol oedd Pema Dorje (Tibeteg པད་མ་རྡོ་རྗེ་ pad ma rdo rje). Aeth yn fynach yn Mynachlog Narthang, ac erbyn ei ganol oed roedd yn cael ei barchu fel sant ac ysgolhaig mawr. Roedd yn nai i'r sant-ysgolhaig enwog Tsongkhapa.
Er na chafodd ei adnabod yn Ddalai Lama yn ystod ei oes, cyhoeddodd yr ail Dalai Lama, Gendun Gyatso, ei fod yn olynydd iddo.
Yn 1447, sefydlodd Gendun Drup fynachlog fawr Tashilhunpo (Tashilunpo) yn Shigatse, a ddaeth yn nes ymlaen yn sedd i'r Panchen Lamas.
Doedd gan Gendun Drup ddim grym gwleidyddol. Rheolwyd Tibet ranedig gan llywodraethwyr fel y Sakyas, Tywysog Tsang a Khan Mongolia. Ni fyddai rhol gwleidyddol y Dalai Lama yn cychwyn tan deyrnasiad y 5ed Dalai Lama.
Gwaith llenyddol
golyguYsgrifennodd draethawd ar yr Abhidharma-kosa, cerdd hir epig ar fywyd y Bwdha Shakyamuni, cerdd gyflwynedig i Je Tsongkhapa (Btsong-ka-pa), a cherdd ddefosiynol gysegredig i'r dduwies Fwdhaidd Tara.
Rhagflaenydd: dechrau'r llinach |
Dalai Lama 1391 – 1472 |
Olynydd: Gendun Gyatso |