Cyflwynydd teledu ac actor o Sais oedd Geoffrey Hayes (13 Mawrth 194230 Medi 2018)[1] Ei rôl mwyaf enwog oedd fel cyflwynydd y rhaglen deledu i blant Rainbow rhwng 1973 a 1992, yn dilyn y cyflwynydd gwreiddiol David Cook.[2] Cyn hynny, bu'n gweithio fel actor, gan gynnwys rôl ar ddrama heddlu Z-Cars (BBC1). Roedd gan Hayes gredydau ysgrifennu ar gyfer Rainbow[3] a The Great Pony Raid yn 1967.[4]

Geoffrey Hayes
Ganwyd13 Mawrth 1942 Edit this on Wikidata
Stockport Edit this on Wikidata
Bu farw30 Medi 2018 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyflwynydd teledu, actor, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRainbow Edit this on Wikidata

Gyrfa golygu

Wedi i Rainbow ddod i ben yn y 1990au roedd Hayes yn ei chael yn anodd i ddod o hyd i waith.[5] Cymerodd swydd stacio silffoedd yn ei siop Sainsbury's lleol am bedwar mis gan nad oedd wedi dod o hyd i swydd actio a roedd ei wraig eisiau iddo ennill incwm. Treuliodd rhywfaint o amser fel gyrrwr tacsi ac ymddeolodd beth amser yn ddiweddarach. Nododd y byddai wedi hoffi gwneud gwaith actio difrifol ar ôl Rainbow, ond roedd cyfarwyddwyr yn ei weld fel Geoffrey o Rainbow yn unig.[6] Serennodd mewn hysbyseb teledu doniol am fuddsoddi arian, yn gwneud hwyl am ei gwymp o'r brig.[7]

Yn 1996, ymddangosodd Hayes yn fideo'r gân "I'd Like To Teach the World to Sing" gan y band teyrnged Oasis, No Way Sis.[8] Roedd yn chwarae gyrrwr tacsi, yn union fel y gwnaeth Patrick Macnee yn fideo Oasis ar gyfer "Don't Look Back in Anger".[9] Ymddangosodd hefyd yn y fideo llawn enwogion ar gyfer y sengl elusennol "Is This the Way to Amarillo" gyda Tony Christie a Peter Kay.

Yn 2002, roedd yn banelydd gwadd ar bennod o Never Mind the Buzzcocks.[10]

Yn 2008, roedd Hayes yn rhan o ymgyrch Walkers Crisips ar gyfer Monster Munch. Amcan datganedig yr ymgyrch oedd dod o hyd i'r pypedau anghenfil coll o'r hysbysebion teledu gwreiddiol o'r 1980au ar gyfer y byrbryd poblogaidd. Yn y clip ffilm, mae'n sôn ei fod wedi clywed gan Bungle yn ddiweddar.[11]

Ar 12 Medi 2015, roedd yn gystadleuydd gwadd ar gwis Pointless Celebrities (BBC1) . Aeth i'r rownd derfynol ond ni chafodd ateb 'dibwynt'.[12][13]

Roedd Hayes yn gefnogwr o'r tîm pêl-droed Albanaidd Dundee Unedig, wedi byw yn y ddinas yn y 1960au. Dywedodd Hayes ei fod wedi gofyn i gynhyrchwyr Rainbow i wneud pyped Zipp yn lliw tanjerîn, i gyd-fynd â lliwiau Dundee United yn hytrach na lliw glas eu gelynion lleol Dundee.[14]

Marwolaeth golygu

Bu farw Hayes o niwmonia ar 30 Medi 2018, yn 76 oed, gan adael ei wraig Sarah a mab Tom.[15][16]

Cyfeiriadau golygu

  1. Hayward, Anthony (1 October 2018). "Geoffrey Hayes obituary". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 October 2018.
  2. Shepherd, Jack (1 October 2018). "Geoffrey from Rainbow dies, aged 76". The Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 October 2018.
  3. "Rainbow (1972-95) Credits". BFI Screenonline (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 October 2018.
  4. "The Great Pony Raid". TV Guide (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 October 2018.
  5. "Rainbow couple reunited". BBC News. 12 July 2002. Cyrchwyd 23 July 2013.
  6. Webber, Richard (22 February 2015). "Rainbow presenter Geoffrey Hayes: 'Like most actors, I've had spells of unemployment'". Express.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 September 2018.
  7. Geoffrey Hayes (13 August 2002). "Entertainment | Hayes returns over the Rainbow". BBC News. Cyrchwyd 23 July 2013.
  8. "What's happened to Geoffrey Hayes". The Scotsman. 26 September 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 23 September 2013.
  9. McAlpine, Fraser (25 June 2015). "RIP Patrick Macnee: The Original Avenger". BBC America (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-01. Cyrchwyd 1 October 2018.
  10. "Rainbow star Geoffrey Hayes dies". Yorkshire Post. 1 October 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-01. Cyrchwyd 1 October 2018.
  11. "Monster Munch 'Geoffrey Hayes' by Frank PR". Campaign. Campaignlive.co.uk. 3 October 2008. Cyrchwyd 23 September 2013.
  12. "BBC One – Pointless Celebrities, Series 8". BBC One. Cyrchwyd 1 October 2018.
  13. "Geoffrey from Rainbow just showed up on Pointless Celebrities". Metro (yn Saesneg). 12 September 2015. Cyrchwyd 1 October 2015.
  14. "BBC SPORT | Fun and Games | Zippy named top fan". BBC News. 10 March 2006. Cyrchwyd 23 September 2013.
  15. "Rainbow's Geoffrey Hayes dies at 76". BBC News. 1 October 2018. Cyrchwyd 1 October 2018.
  16. "Rainbow's Geoffrey Hayes remembered fondly as he dies aged 76". The Irish News (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 October 2010.

Dolenni allanol golygu