George Alfred Walker

diwygiwr glanweithiol Seisnig

Roedd George Alfred Walker (Graveyard Walker) (27 Hydref 18076 Gorffennaf 1884) yn ddiwygiwr glanweithiol Seisnig a fu'n ymgyrchu dros ddiwygio ymarferion claddu er mwyn rhwystro lledaenu haint.[1]

George Alfred Walker
Ganwyd27 Hydref 1807 Edit this on Wikidata
Nottingham Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1884 Edit this on Wikidata
Arthog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethmeddyg, ysgrifennwr, ymgyrchydd Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Walker yn Nottingham yn ail fab i William Walker, plymwr, a'i wraig, Elizabeth Williamson, o Barton under Needwood, Swydd Stafford. Derbyniodd ei addysg gynharaf gan Henry Wild, Crynwr o Nottingham. Aeth i Lundain lle fu'n ddisgybl yn Ysgol Aldersgate. Ym 1829 daeth yn drwyddedog yng Nghymdeithas yr Apothecariaid, ac ym 1831, yn aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon. Ym 1835 bu'n astudio yn Ysbyty St Bartholomew, a'r flwyddyn ganlynol yn Hôtel Dieu ym Mharis.[2]

Ni fu'n briod.

Gyrfa golygu

 
Clawr Gatherings from Graveyards gan Walker

Ym 1837 dychwelodd Walker i Lundain gan sefydlu practis meddygol yn 101 Drury Lane.[3] O fewn tafliad carreg i'w feddygfa roedd saith o'r mynwentydd mwyaf gorlawn a heintus yn Llundain. Roedd y rhain yn cynnwys Ground Green yn Portugal Street ac Enon Chapel St Clement's Lane, lle claddwyd rhwng 10,000 a 12,000 o bobl o dan y lloriau mewn seler yn mesur dim ond 59 x 29 troedfedd yn unig. Roedd Walker yn argyhoeddedig bod yr arogl a oedd yn deillio o'r mynwentydd gorlawn hyn yn wenwynig ac y gallai gael effaith andwyol ar iechyd y rhai oedd yn byw gerllaw.[4]

Cyhoeddodd nifer o lyfrau a llyfrynnau a oedd yn amlygu cyflwr arswydus mynwentydd trefol ac yn ceisio profi cysylltiad rhwng afiechydon ac ymarferion claddu.[5] Roedd am weld gwaharddiad ar gladdedigaethau rhwng waliau a sefydlu mynwentydd newydd y tu allan i'r trefi.

Ym 1845 sefydlodd y Gymdeithas Diddymu Claddedigaethau mewn Trefi (the National Society for the Abolition of Burials in Towns) i hyrwyddo ei achos. Rhoddwyd hwb sylweddol i ymgyrch Walker gan epidemig colera 1848. Wedi'r epidemig argyhoeddwyd y rhan fwyaf o bobl bod cysylltiad rhwng clefyd a chyflwr hylendid a glanweithdra cyhoeddus. Ymgyrchodd y Gymdeithas Diddymu Claddedigaethau mewn Trefi yn egnïol ym 1849.

Arweiniodd ymgyrch Walker at fesurau yn gwahardd unrhyw gladdedigaethau pellach ym mynwentydd canol ddinas Llundain ac i benodi arolygwyr claddu.

Ymddeoliad a marwolaeth golygu

Ymddeolodd Walker i Ynysfaig, Arthog, Dolgellau ym 1855. Treuliodd ei flynyddoedd diwethaf yn ysgrifennu hunangofiant o'r enw Grave reminiscences: some experiences of a sanitary reformer, ond ni chafodd y gwaith ei gwblhau. Yn dilyn ymosodiad parlysol sydyn tuag wythnos ynghynt, bu farw, yn ei gartref ar 6 Gorffennaf 1884,[6] a chladdwyd ei weddillion ym Mynwent y Crynwyr, Llwyngwril.[7]

Cyhoeddiadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Pinfold, J. (2004, September 23). Walker, George Alfred (1807–1884), sanitary reformer. Oxford Dictionary of National Biography. Ed. Retrieved 16 Jan. 2019, from http://www.oxforddnb.com/view/10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-28484.
  2. THE SCIENCE MUSEUM GROUP - George Alfred Walker 1807 – 1854 adalwyd 17 Ionawr 2019
  3. The London Medical Directory: 1845 golygydd C. Mitchell adalwyd 17 Ionawr 2019
  4. "Y DR WALKER A'I LAFUR YN MHLAID IECHYD Y BRIFDDINAS A'R GENEDL YN GYFEREDINOL - Y Dydd". William Hughes. 1875-05-21. Cyrchwyd 2019-01-17.
  5. "MR GEORGE ALFRED WALKER MRCSL, LAC - Y Dydd". William Hughes. 1875-05-07. Cyrchwyd 2019-01-17.
  6. "DEATH OF A CELEBRATED REFORMER - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1884-07-12. Cyrchwyd 2019-01-17.
  7. "LLWYNGWRIL - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1888-08-17. Cyrchwyd 2019-01-17.