George Chapman
Bardd, dramodydd, a chyfieithydd o Loegr oedd George Chapman (tua 1559 – 12 Mai 1634). Mae'n nodedig am ei gyfieithiad i'r Saesneg o'r Iliad a'r Odyseia gan Homeros.
George Chapman | |
---|---|
Ganwyd | 1559, 1559 Swydd Hertford, Hitchin |
Bu farw | 12 Mai 1634, 1634 Llundain |
Man preswyl | Western House |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | dramodydd, ieithydd, bardd, cyfieithydd, llenor |
Adnabyddus am | Bussy D'Ambois |
Ganwyd yn Hitchin, Swydd Hertford, ac mae'n bosib iddo astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, er na derbyniodd radd. Erbyn 1585, yr oedd Chapman yn Llundain yn gweithio i Syr Ralph Sadler, ac mae'n debyg iddo deithio i'r Isel Wledydd yn y cyfnod hwn. Ymhlith ei weithiau cynnar mae'r cerddi The Shadow of Night . . . Two Poeticall Hymnes (1593), Ovids Banquet of Sence (1595), a De Guiana, Carmen Epicum (1596). Cyflawnodd ei gyfieithiad o'r Iliad yn 1611, a'r Odyseia yn 1616. Carcharwyd Chapman, Ben Jonson, a John Marston yn 1605 am iddynt ddigio'r Brenin Iago am eu portread o'r Albanwyr yn y ddrama Eastward Ho. Mae tua deuddeg o ddramâu gan Chapman yn goroesi, gan gynnwys y trasiedïau Bussy d’Ambois (1607), The Conspiracie, and Tragedie of Charles Duke of Byron (1608), a The Widdowes Teares (1612).[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) George Chapman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Awst 2019.