Y Gwledydd Isel

(Ailgyfeiriad o Isel Wledydd)

Rhanbarth hanesyddol yng ngogledd-orllewin tir mawr Ewrop yw'r Gwledydd Isel sydd yn cyfateb i'r cenedl-wladwriaethau modern yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, a Lwcsembwrg. Daw'r enw o'r ffaith bod llawer o'r tiroedd hyn, ar hyd arfordir Môr y Gogledd ac am gryn bellter i mewn i'r berfeddwlad, naill ai islaw lefel y môr neu ychydig yn uwch na hi. Mae mwy na chwarter o gyfanswm arwynebedd tir yr Iseldiroedd yn is na lefel y môr, er enghraifft, a man isaf y wlad honno, y Zuidplaspolder ar gyrion Rotterdam, yn gorwedd 6.76 m o dan lefel y môr. Amddiffynnir y polderau, sef y darnau o dir gwastad wedi eu draenio a'u hadennill o'r môr, rhag llifogydd gan dwyni tywod naturiol yn ogystal â system artiffisial o forgloddiau ac argaeau.

y Gwledydd Isel
Mathardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau52°N 5°E Edit this on Wikidata
Map

Mae'r Gwledydd Isel yn drawsnewidbarth ers talwm rhwng y bobloedd a'r diwylliannau Germanaidd a Lladinaidd yng ngorllewin Ewrop. Ymhlith yr amryw genhedloedd a grwpiau ethnig mae'r Iseldirwyr, y Ffleminiaid, y Walwniaid, y Lwcsembwrgiaid, a'r Ffrisiaid. Siaredir yr ieithoedd Germanaidd Iseldireg yn yr Iseldiroedd ac yn Fflandrys (gogledd Gwlad Belg), yr Almaeneg yn nwyrain Gwlad Belg ac yn Lwcsembwrg, a'r Lwcsembwrgeg yn Lwcsembwrg. Siaredir Ffrangeg, iaith Romáwns, yn Walwnia (de Gwlad Belg) ac yn Lwcsembwrg. Ceir tafodieithoedd cryf ar draws y Gwledydd Isel, gan gynnwys ffurfiau a ystyrir yn aml yn ieithoedd ar wahân, megis y Fflemeg a'r Walwneg, ac ieithoedd rhanbarthol gan gynnwys y Ffriseg. O ran crefydd, Catholigion yw'r mwyafrif o Felgiaid a Lwcsembwrgiaid, ac yn yr Iseldiroedd rhennir y boblogaeth rhwng Catholigion a Phrotestaniaid.

Cyfeiriadau golygu