George Henry Powell
Ysgrifennwr caneuon, Cymreig oedd George Henry Powell (27 Ebrill 1880 – 3 Rhagfyr 1951).
George Henry Powell | |
---|---|
Ffugenw | George Asaf |
Ganwyd | George Henry Powell 27 Ebrill 1880 Llanelwy |
Bu farw | 3 Rhagfyr 1951 Hove |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfansoddwr caneuon, awdur geiriau |
Adnabyddus am | Pack Up Your Troubles in Your Old Kit-Bag |
Ganwyd ar 27 Ebrill 1880 yn Llanelwy; cafodd ei addysg yn y dref ac roedd yn aelod o gôr y gadeirlan[1]. Priododd Leila Byron ar 15 Gorffennaf 1905[2]. Roedd yn rhan o'r Harlequinaders, yn gweithio'n llwyddiannus yn neuaddau cerdd, a defnyddiodd yr enw George Asaf.Ysgrifennodd geiriau'r gân "Pack Up Your Troubles in Your Old Kit-Bag" ym 1915. Cyfansoddwyd y tôn gan ei frawd, Felix Powell. Doedd y brodyr ddim yn hoff iawn o'r gân, ond pan drefnwyd cystadleuaeth gan y cyhoeddwyr cerddoriaeth Francis, Day a Hunter i greu cân addas i'r milwyr yn mynd i'r rhyfel, anfonasant y gân, ac enillasant yr ornest. Daeth y gân yn llwyddiant ysgubol yn syth.[3].
Daeth George yn heddychwr a gwrthwynebwr cydwybodol, ac yn hwyrach yn Seientiad Cristnogol.[3].
Aeth y brodyr i Peacehaven i fyw ar ôl y rhyfel. Roeddent hefyd yn berchnogion y Peacehaven Gazette ac wedi agor theatr, y Lureland. Cadwyd y brodyr eu hawliau i'r gân, sydd yn boblogaeth iawn hyd at heddiw, yn arbennig yn amserau rhyfel, a nid yn unig ym Mhrydain[3]. Bu farw yn Hove, Swydd Dwyrain Sussex, ar 3 Rhagfyr 1951.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Dinas Llanelwy
- ↑ [Geiriadur o Gofiant Cenedlaethol Rhydychen]
- ↑ 3.0 3.1 3.2 The Independent 4 Tachwedd 2010