Felix Powell

cyfansoddwr a aned yn 1878

Cerddor Cymreig oedd Felix Powell (23 Mai 1878 - 10 Chwefror 1942).

Felix Powell
Ganwyd23 Mai 1878 Edit this on Wikidata
Llanelwy Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1942 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Peacehaven Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfansoddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPack Up Your Troubles in Your Old Kit-Bag Edit this on Wikidata

Ganwyd ef yn Llanelwy; cafodd ei addysg yn y dref ac roedd yn aelod o gôr y gadeirlan[1]. Priododd Mabel Florence ar 11 Mehefin 1911.[2]. Roedd yn rhan o'r Harlequinaders, yn gweithio'n llwyddiannus yn neuaddau cerdd. Cyfansoddodd gerddoriaeth y gân "Pack Up Your Troubles in Your Old Kit-Bag" ym 1915. Roedd ei frawd, George Henry Powell wedi ysgrifennu'r geiriau. Doedd y brodyr ddim yn hoff iawn o'r gân, ond pan drefnwyd cystadleuaeth gan y cyhoeddwyr cerddoriaeth Francis, Day a Hunter i greu cân addas i'r milwyra oedd yn mynd i'r rhyfel, anfonasant y gân, ac enillodd y gân yr ornest, a daeth y gân yn llwyddiant ysgubol[3].

Er daeth George yn heddychwr a gwrthwynebydd cydwybodol, aeth Felix dros y Sianel i ddiddanu'r milwyr efo grŵp newydd, y White Knights[2]. Ar y dechrau, fe'i cyfareddwyd gan y ffaith bod y milwyr wedi canu'r gân ar eu ffordd i'r frwydr, ond daeth ei berthynas efo'r sefyllfa'n fwy gymhleth efo parhad y gyflafan. Roedd mewn cyflwr meddyliol drwg erbyn 1918[3][4]. Cadwyd gan y brodyr eu hawliau i'r gân, sydd yn boblogaidd iawn hyd at heddiw, yn arbennig yn amserau rhyfel, ac nid yn unig ym Mhrydain. Aeth y brodyr i Peacehaven i fyw ar ôl y rhyfel, lle daeth Felix yn asiant tai. Roedd y brodyr hefyd yn berchnogion y Peacehaven Gazette ac wedi agor theatr, y Lureland[3].

Ym 1933 ac eto ym 1936, cynhyrchodd ei sioe ei hun, Rubicund Castle yn Theatr y Pafiliwn, Peacehaven. Yn y 30au, ysgrifennodd sioe gerddorol, Primrose Time. Agorodd y sioe ynTheatr Brenhinol, Brighton ond nid aeth y sioe i Lundain oherwydd problemau ariannol.[2] Lladdwyd Felix ei hun ar 10 Chwefror, 1942 ar lwyfan y Lureland, yn gwisgo lifrai'r Gartreflu [3].

Cyfeiriadau golygu