George Percival Spooner
Ganwyd George Percival Spooner, mab Charles Easton Spooner, ym Meddgelert ar 13 Mehefin 1850.[1] Addysgwyd yn Ysgol Harrow ac yn Karlsruhe a daeth yn beiriannydd. Roedd yn brentis i'w dad yng Ngweithdy Boston Lodge ar Reilffordd Ffestiniog. Cynlluniodd o'r locomotifau James Spooner (enwyd ar ôl ei daid) a Merddyn Emrys, a sawl cerbyd. Daeth yn Beiriannydd i'r rheilffordd ym 1872 a Goruchwylwr Locomotifau ym 1879.
George Percival Spooner | |
---|---|
Ganwyd | 13 Mehefin 1850 Beddgelert |
Bu farw | 21 Ionawr 1917 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | peiriannydd rheilffyrdd, special constable |
Cyflogwr |
|
Tad | Charles Easton Spooner |
Anfonwyd o i India ar ôl iddo fo ac Eleanor Davies, yn o weison i'r teulu wedi cal merch, sef Kate Ellen, ym 1878. Daeth o'n beiriannydd a Goruchwylwr Locomotifau i'r Rheilffyrdd India. Daeth o'n ôl i Loegr ym 1894 a chydweithiodd efo Tom Casson ar gwelliant organau pibell bach. Buddsododd o mewn Cwmni Positive Organ, ond doedd y cwmni ddim yn llwyddiannus yn gyllidol.[2] Bu farw yn Llundain ar 21 Ionawr 1917[1].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Gwefan archiveswales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-08-23.
- ↑ Gwefan Festipedia