Awdur Cymreig ydy Elfyn Pritchard (ganwyd 28 Ebrill 1932), sy'n dod o Y Sarnau, ger Y Bala. Mae hefyd yn gyn-brifathro ysgol gynradd ac yn ddarlithydd ac yn adolygydd.[1][2]

Elfyn Pritchard
Ganwyd28 Ebrill 1932 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethawdur Edit this on Wikidata

Bu'n Gadeirydd Panel Plant Cyngor y Celfyddydau ac yn Gadeirydd Panel llyfrau darllen CBAC. Roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 1994 ac yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau yn Y Bala ym 1997. Mae wedi bod yn olygydd Allwedd y Tannau, Cylchgrawn Cymdeithas Cerdd Dant Cymru am 17 mlynedd. Mae'n aelod o Lys a Chyngor yr Eisteddfod ac yn aelod o'r Orsedd yn dilyn ei lwyddiant yn cipio'r Fedal Ryddiaith yn Ninbych.[2]

Llyfryddiaeth golygu

Gwobrau ac Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu