Gerddi Crog Babilon

Yn ôl y traddodiad gosododd y brenin Nebuchodonosor y gerddi enwog hyn i fyny o barch i'w wraig Amytis. Roedd hi'n enedigol o Ecbatana ym mryniau Medea ac wedi arfer cael y pleser o rodio ar fryniau uchel coediog ei gwlad. Mae Babilon yn sefyll ar wastadedd undonog braidd a hiraethai'r frenhines am fynyddoedd irwedd gwlad ei genedigaeth. Felly creodd y brenin erddi paradwysaidd iddi. Roedd y gerddi hyn yn un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd.

Gerddi Crog Babilon
Hanging Gardens of Babylon.jpg
Gerddi Crog Babylon (Martin Heemskerck, 16g)
Math gerddi crog, Rhyfeddod yr Henfyd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Saith Rhyfeddod yr Henfyd Edit this on Wikidata
Lleoliad Babilon Edit this on Wikidata
Sir Irac Edit this on Wikidata
Gwlad Assyria Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 32.5356°N 44.4275°E Edit this on Wikidata

Ceir ambell ddigrifiad ohonynt yng ngwaith awduron clasurol fel Quintus Curtius. Roedd y gerddi yn fath o fynydd artiffisial wedi'i greu o sawl teras yn esgyn y naill uwch law y llall fel pyramid grisiog; addasiad o hen dechneg a ddefnyddid i godi'r ziggurats ym Mesopotamia. Safai'r gerddi ar sylfeini cadarn o fur trwchus sgwar 400 troedfedd o hyd a lled â'r tu mewn iddo wedi'i lenwi â cherrig. Safai pob teras ar res o golofnau cedyrn a chodai'r gerddi i uchder o hyd at 300 troedfedd.

Llifai Afon Euphrates heibio i'r Gerddi Crog a thynid dŵr o'r afon â math o "sgriw" Archimedes i'w dyfrhau.

Roedd pobl yr hen Fesopotamia yn hoff o erddi ffurfiol, yn arbennig o gwmpas y temlau.

FfynhonnellGolygu

  • M.G. Watkins, Natural History of the Ancients (Llundain, 1896)