Mathemategydd, seryddwr a pheiriannydd o'r Hen Roeg oedd Archimedes (c.287 CC - 202 CC). Ganwyd yn Siracusa, dinas Roegaidd ar arfordir dwyreiniol ynys Sisili.

Archimedes
GanwydἈρχιμήδης Edit this on Wikidata
c. 287 CC Edit this on Wikidata
ancient Syracuse Edit this on Wikidata
Bu farw212 CC Edit this on Wikidata
ancient Syracuse Edit this on Wikidata
Man preswylSiracusa Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethancient Syracuse Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, ffisegydd, seryddwr, dyfeisiwr, peiriannydd milwrol, athronydd, peiriannydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amArchimedes' principle, Archimedes' screw, Archimedes Palimpsest, Archimedes number, claw of Archimedes, Trammel of Archimedes, Sbiral Archimedes, Archimedes' cattle problem, Archimedean property, Archimedes' Heptagon, On the Sphere and Cylinder Edit this on Wikidata
TadFidias Edit this on Wikidata

Roedd ymhlith yr enwocaf o fathemategwyr yr Henfyd ac un o'r ymenyddol rymusaf a fu erioed. Mae'n cael ei gofio yn y traddodiad poblogaidd am ddefnyddio peiriannau gwrth-warchae yn erbyn llynges y Rhufeiniaid (Crafanc Archimedes), am y sgriwiau codi dŵr sy'n dwyn ei enw, ac am weiddi Eureka! yn y baddon pan ddarganfu gyfrinach y grym sy'n peri i gorff arnofio ar wyneb dŵr. Dywedir iddo gael ei ladd gan filwyr Rhufeinig yn gwarchae Siracusa - roedd o'n canolbwyntio cymaint ar weithio allan rhyw broblem fathemategol yn ei ben fel na sylwodd ar yr hyn oedd yn digwydd o'i gwmpas.

Ymddengys iddo ymweld â'r Aifft ac astudio yn Alecsandria, prifddinas dysg y cyfnod. Mae ei bwysigrwydd yn hanes mathemateg yn gorffwys ar ei ddarganfyddiadau o fformiwlâu am faint a chyfaint sfferau, silindrau, parabolau a ffigyrau gwastad a solet eraill, gwaith a ragflaenodd ddarganfyddiadau yn yr un meysydd yn Ewrop yn yr 17g. Sefydlodd yn ogystal wyddor hydrostateg. Yn anffodus mae ei waith seryddol ar goll ers canrifoedd ac rydym yn dibynnu ar gyfieithiadau o'r Roeg i'r Arabeg am nifer o'i weithiau eraill.

Sgriw Archimedes

golygu

Ymhlith ei ddefnyddiau mwyaf poblogaidd y mae'r sgriw canlynol a caiff ei ddefnyddio ledled y byd i godi dŵr (neu wrthrych arall) o lefel isel i lefel uwch.

 
Sgriw Archimedes.