Geri Allen
Pianydd a chyfansoddwraig jazz Americanaidd oedd Geri Allen (12 Mehefin 1957 – 27 Mehefin 2017).
Geri Allen | |
---|---|
![]() Allen yn 2008 | |
Y Cefndir | |
Ganwyd |
12 Mehefin 1957 Pontiac, Michigan, U.D.A |
Lleoliad | Detroit, Michigan, U.S. |
Bu farw |
27 Mehefin 2017 (60 oed) Philadelphia, Pennsylvania, U.D.A |
Math o Gerddoriaeth | Jazz, y felan, jazz rhydd, ffync, gospel |
Gwaith |
Cerddor Athrawes Cynhyrchydd recordiau |
Offeryn/nau | Piano |
Cyfnod perfformio | 1982–2017 |
Label |
Motema Music Polygram Storyville Blue Note Telarc |
Perff'au eraill | Steve Coleman, Paul Motian, Ornette Coleman, David Murray, Charlie Haden, Charles Lloyd |
Gwefan | www.GeriAllen.com |
Ganwyd Allen ym Mhontiac, Michigan, ond fe'i magwyd yn Netroit[1]. Daeth i'r amlwg fel perfformiwr yn ystod yr 1980au fel rhan o'r mudiad M-Base, arddull oedd yn cyfuno elfennau o jazz rhydd gyda cherddoriaeth hip-hop. Roedd Allen yn ymwneud â jazz rhydd drwy gydol ei gyrfa - fe'i clywyd ar nifer o recordiau hwyr Ornette Coleman - heb erioed gamu'n llawn i'r maes hwnnw yn ei recordiau ei hun. Roedd ei harddull bersonol yn y 90au yn cyfuno elfennau rhydd gyda dylanwadau o gerddoriaeth glasurol.
Yn ogystal â bod yn berfformiwr pwysig, enillodd Allen glod fel addysgwraig. Bu'n Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Pittsburgh, ac yn gyfarwyddwr ar y rhaglen Astudiaethau Jazz yno.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Cook, Richard (2005). Richard Cook's Jazz Encyclopedia. Llundain: Penguin Books. tt. 8. ISBN 0-141-00646-3.
- ↑ Adlet, David R. (27 Mehefin 2017). "Geri Allen, Brilliantly Expressive Pianist, Composer and Educator, Dies at 60". WGBO. Cyrchwyd 27 Mehefin 2017.