Gerwyn Williams

bardd o Gymro

Mae Gerwyn Wiliams (ganed 1963) yn fardd Cymraeg a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r cyffiniau 1994.

Gerwyn Williams
Ganwyd1963 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata
Clawr un o lyfrau'r bardd Gerwyn Wiliams.

Magwyd ef yn Llangefni ac yn y Trallwng. Astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn y Gymraeg. Cafodd swydd fel darlithydd yn y Gymraeg yng Mhrifysgol Bangor lle mae bellach yn Athro. Bu'n un o olygyddion Taliesin rhwng 1993 a 1998.  Ers 2009, ef yw golygydd Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru. 

Gweithiau

golygu
  • Colli Cyswllt (1984)
  • Rhwng y Cwn a'r Brain (1988)
  • Cydio'n dynn (1997)
  • Y rhwyg: arolwg o farddoniaeth Gymraeg ynghylch y Rhyfel Byd Cyntaf (1993)
  • Rhyddid y nofel (golygydd) (1999)
  • Gorau Cyfarwydd: Detholiad o Ddarlithoedd ac Ysgrifau Beirniadol Bedwyr Lewis Jones (2002)
  • Tafarn Tawelwch (2003)
  • Tir neb: rhyddiaith Gymraeg a'r Rhyfel Byd Cyntaf (1996)
  • Rhyddid y Nofel (gol.) (1999)
  • Tynnu Gwaed (1983)
  • Tir Newydd: Agweddau ar Lenyddiaeth Gymraeg a'r Ail Ryfel Byd (2005)
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.