Giannina Arangi-Lombardi

Roedd Giannina Arangi-Lombardi (20 Mehefin 18919 Gorffennaf 1951) yn soprano spinto amlwg, oedd yn gysylltiedig â repertoire operatig yr Eidal.[1]

Giannina Arangi-Lombardi
Ganwyd20 Mehefin 1891 Edit this on Wikidata
Marigliano Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1951 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa

golygu

Ganwyd Giannina Lombardi yn Marigliano ar gyrion Napoli. Cafodd blentyndod cyffredin iawn ond roedd ganddi dueddiadau cerddorol amlwg. Ym 1911, ar ôl chwe blynedd o astudio o dan Beniamino Carelli, derbyniodd ddiploma mewn piano a llais gan Gonservatoire San Pietro a Majella.[2]

Ym 1912, priododd Lombardi â Lorenzo Arangi ym Masilica Santa Maria Maggiore yn Rhufain. Wedi priodi bu'r cwpl yn byw yn Palermo, man geni Renzos. Dechreuodd Arangi-Lombardi dysgu gan roi datganiadau amatur achlysurol. Dan anogaeth cyfeillion penderfynodd rhoi gais ar ganu proffesiynol ym mis Hydref 1919, gwnaeth Giannina ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf fel mezzo-soprano yn Circolo Geraci Palermo. Canodd Stride la vampa o Il Trovatore. Cafodd derbyniad cynnes iawn gan y gynulleidfa a phenderfynodd ar unwaith i ddod yn gantores broffesiynol llan amser. Ar ôl sawl mis o astudio ffurfiol, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf mewn opera yn Teatro Costanzi yn Rhufain ar 25 Medi 1920 yn rhan Lola yn Cavalleria Rusticana a chafodd ganmoliaeth uchel iawn gan y beirniaid. Dros y Pedair blynedd nesaf bu'n canu'n rheolaidd yn Rhufain, Palermo, Milan a Parma.

Canodd yn y Teatro alla Scala ym Milan rhwng 1924 a 1930, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf fel Elena ym Mefistofele gan Boito, o dan arweiniad Arturo Toscanini. Cafodd gwahoddiadau i dai opera gorau Ewrop, er na chafodd gwahoddiad i ymddangos ym Mharis na Llundain, perfformiodd i glod mawr yn Ne America hefyd. Fe’i dewiswyd gan y Fonesig Nellie Melba i gymryd rhan yn ei thaith ffarwel i Awstralia ym 1928. Roedd y daith yn cynnwys Arangi-Lombardi yn chwarae'r rôl deitl yn y perfformiad cyntaf o Turandot gan Puccini yn Awstralia.

Roedd Arangi-Lombardi yn nodedig am rolau fel La vestale, Lucrezia Borgia, La Gioconda, ac Aida. Canodd ym mherfformiad Eidalaidd cyntaf Ariadne auf Naxos. Ymddangosodd yng Ngŵyl Salzburg ym 1935 ond ymddeolodd o'r llwyfan, wrth dal ifod mewn llais da ym 1938. Ei rôl olaf oedd fel Amelia yn Ballo in Maschera. Yna bu’n dysgu yn y Conservatoire Gerdd ym Milan, ac yn ddiweddarach yn Ankara, lle bu'r soprano adnabyddus Leyla Gencer yn un o'i disgyblion.

Marwolaeth

golygu

Bu farw ym Milan ychydig ar ôl ei phen-blwydd yn 60 oed o achosion heb eu datgelu

Etifeddiaeth

golygu

Gellir clywed llais trawiadol Arangi-Lombardi mewn pedwar recordiad opera cyflawn, Aida (1928), Cavalleria Rusticana (1930), La Gioconda (1931), gydag Ebe Stignani yn 'Laura'. Am nifer o flynyddoedd dyma'r unig recordiad cyflawn ac fe'i hystyriwyd yn fersiwn ddiffiniol y dylai eraill anelu ato.[3] Y recordiad olaf oedd fel Elen o Gaerdroea yn Mefistofele gyferbyn a Nazzareno De Angelis (1931) yn rôl y teitl.

Cyfeiriadau

golygu