Gigafactory Tecsas

Mae Gigafactory Texas (a elwir hefyd yn Giga Texas, Giga Austin, neu Gigafactory 5) yn fan gweithgynhyrchu modurol yn Austin, Texas a adeiladwyd gan gwmni Tesla, Inc. Dechreuodd y gwaith adeiladu yng Ngorffennaf 2020,[1] dechreuwyd cynhyrchu ceir Model Y cyn diwedd 2021,[2] a danfonwyd cerbydau a adeiladwyd yn y ffatri i gychwyn mewn parti agoriadol o’r enw “Cyber Rodeo” a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2022.[3]

Gigafactory Tecsas
Enghraifft o'r canlynolffatri Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
PerchennogTesla Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddTesla Edit this on Wikidata
CynnyrchTesla Semi, Tesla Model 3, Tesla Model Y, Tesla Cybertruck Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthTravis County Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.tesla.com/giga-texas Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae’r ffatri’n cynhyrchu ceir Model Y ar gyfer Dwyrain yr Unol Daleithiau a’r bwriad hefyd yw bod yn brif ffatri’r Cybertruck.[4][5][6][7] Mae hefyd yn gwasanaethu fel safle pencadlys corfforaethol Tesla.[8] Cyfloga'r cwmni dros 20,000 o bobl yn y ffatri a chyn hir disgwylir y cyflogir 60,000 o staff wrth i nifer y ceir a gynhyrchir gynyddu. Dyma ail ffatri fwyaf y wlad yn ôl maint yn ogystal â'r ail adeilad mwyaf yn y byd yn ôl cyfaint ar ôl Ffatri Boeing Everett.[9]

Hanes golygu

Roedd Tesla wedi bod yn ystyried lleoliadau ar draws wyth talaith yng nghanol yr Unol Daleithiau yn ystod 2019 - 2020.

Mynegodd grwpiau cymunedol a swyddogion y llywodraeth mewn sawl ardal yn yr Unol Daleithiau ddiddordeb mewn cynnal yr hyn y disgwylir iddo fod yn gyfleuster gweithgynhyrchu enfawr.[10] Mynegodd nifer o daleithiau ddiddordeb denu'r ffatri i'w hardaloedd.[11] Defnyddiodd rhai farchnata cyfryngau cymdeithasol gyda'r nod o gyrraedd Elon Musk yn uniongyrchol.[12][13]

Yng Ngorffennaf 2020, cymeradwyodd Ardal Ysgol Annibynnol Del Valle yn Austin becyn cymhellion treth gwerth $ 68 miliwn, pe bai'r Tesla Gigafactory yn cael ei adeiladu. Ar 22 Gorffennaf 2020 cyhoeddodd y cwmni fod lleoliad wedi'i ddewis ar gyfer ei bumed Gigafactory.[4]

Erbyn diwedd Gorffennaf 2020, roedd y gwaith adeiladu wedi dechrau.[14] Derbyniodd y Tesla Gigafactory gymhellion treth y wladwriaeth o tua $50 miliwn trwy raglen Pennod 313 Cod Treth Texas.[15]

Daeth y Tesla Model Y cyntaf a gwblhawyd yn llawn oddi ar y llinell yn Giga Texas yn ystod wythnos olaf Awst 2021. [16]

Cyhoeddodd Tesla raglen hyfforddi gweithgynhyrchu mewn cydweithrediad a Choleg Cymunedol Austin ar 15 Mehefin 2021.[17][18][19] Roedd disgwyl i'r rhaglen ddechrau yn Awst 2021 ac roedd y cwrs i bara 14 wythnos.[20]

Yn Rhagfyr 2021, amcangyfrifodd Elon Musk y byddai angen cyfanswm o $10 biliwn o fuddsoddiad, o leiaf, yn Giga Texas ac y gellid cyflogi cymaint ag 20,000 o weithwyr.[21][22] Yn Hydref 2023 roedd gan do'r ffatri bŵer solar o 10 MW.[23]

Cyhoeddodd Talaith Kansas a Panasonic yng Ngorffennaf 2022 fod lleoliad Ffatri Batri enfawr wedi'i ddewis - yn De Soto, Kansas (yng nghyn-gyfleuster Sunflower Army Ammunition). Rhoddwyd cymorthdaliadau a gostyngiadau mawr i Panasonic, i'w denu yno.

Offer golygu

 
Gweithwyr adeiladu yn paratoi tair sylfaen Giga Press ar safle ffatri Giga Texas yn Ionawr 2021

Yn Ionawr, 2021, tywalltwyd sylfeini concrit ar gyfer tri pheiriant castio Giga Press yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y ffatri Giga Texas.

Erbyn diwedd Mehefin 2022, roedd Gigafactory Texas yn cynhyrchu 1,000 o unedau yr wythnos[24] ac erbyn 15 o ragfyr, y flwyddyn honno, cynhyrchwyd 3,000 o unedau yr wythnos.

Cyfeiriadau golygu

  1. Lambert, Fred (25 Gorffennaf 2020). "Watch Tesla start construction work at Gigafactory Texas in drone video". Electrek (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2021. Cyrchwyd 24 Awst 2020.
  2. Gastelu, Gary (23 Gorffennaf 2020). "The Tesla Cybertruck will be built in Texas and is getting an interplanetary update". Fox News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Ebrill 2021.
  3. Lee-Jones, Sarah (6 Ebrill 2022). "First Texas-Made Tesla Model Y Deliveries to Take Place at Cyber Rodeo". Cyrchwyd 7 Ebrill 2022.
  4. 4.0 4.1 Gastelu, Gary (23 Gorffennaf 2020). "The Tesla Cybertruck will be built in Texas and is getting an interplanetary update". Fox News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Ebrill 2021.Gastelu, Gary (23 Gorffennaf 2020).
  5. Bursztynsky, Jessica (22 Gorffennaf 2020). "Tesla will build its next Gigafactory near Austin, Texas". CNBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Mawrth 2021. Cyrchwyd 26 Gorffennaf 2020.
  6. Vorrath, Sophie (22 Gorffennaf 2020). "Giga Texas! Austin to build Tesla's new Cybertruck and Tesla Semi". The Driven (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Ionawr 2021. Cyrchwyd 26 Awst 2020.
  7. Isaacson, Walter (8 Medi 2023). "Exclusive excerpt from Walter Isaacson's latest book: "Elon Musk"". Axios. Cyrchwyd 8 Medi 2023.
  8. "Tesla: Elon Musk says company headquarters will move to Texas". BBC News. 8 Hydref 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Hydref 2021. Cyrchwyd 8 Hydref 2021.
  9. Ohnsman, Alan. "Elon Musk Opens Tesla's 'Giga Texas' That He Says Is The Biggest U.S. Plant". Forbes (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Ebrill 2022.
  10. Isidore, Chris. "Your city may be in the running to build Elon Musk's new Cybertruck". CNN. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Awst 2020. Cyrchwyd 24 Awst 2020.
  11. GmbH, finanzen net. "A small Missouri city wants Tesla to build its Cybertruck factory there — and is offering $1 billion in incentives to make it happen | Markets Insider". markets.businessinsider.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 10, 2020. Cyrchwyd 24 Awst 2020.
  12. "Wichita makes pitch for Tesla Cybertruck factory". Kansas City Business Journal. 29 Ebrill 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ebrill 2021. Cyrchwyd 24 Awst 2020.
  13. "Tesla eyeing Austin, Tulsa for next electric vehicle assembly plant, according to reports". Dallas News (yn Saesneg). 15 Mai 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Awst 2020. Cyrchwyd 24 Awst 2020.
  14. Lambert, Fred (25 Gorffennaf 2020). "Watch Tesla start construction work at Gigafactory Texas in drone video". Electrek (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mawrth 2021. Cyrchwyd 24 Awst 2020.Lambert, Fred (25 Gorffennaf 2020).
  15. Texas Comptroller of Public Accounts (6 Mehefin 2020). "DEL VALLE ISD NO. 1496, COLORADO RIVER PROJECT, LLC Certification Packet". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ionawr 2021.
  16. "Report: First Pre-Production Tesla Model Y Seen At Giga Austin". InsideEVs (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Hydref 2021. Cyrchwyd 10 Hydref 2021.
  17. @ (15 Mehefin 2021). "This. Is. Big! Austin Community College District and @Tesla team up to announce Tesla START Manufacturing at ACC. 👏👏👏 The new 14-week training program provides the skills you need for a high demand career at Tesla. 🚘 Learn more > t.co/lWiS735ST8 #Tesla t.co/Aa5lpo2Q8Y" (Trydariad) (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2021 – drwy Twitter.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  18. "Tesla launches manufacturing training program in partnership with Austin Community College". kvue.com (yn Saesneg). 15 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2021.
  19. "Tesla START | Tesla". Tesla (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2021.
  20. Pruitt, Sydney (15 Mehefin 2021). "Tesla Launches National Manufacturing Technician Program with Austin Community College District | Austin Community College District". Austin Community College. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2021.
  21. @ (16 Rhagfyr 2021). "Giga Texas is a $10B+ investment over time, generating at least 20k direct & 100k indirect jobs" (Trydariad). Cyrchwyd 21 Mawrth 2022 – drwy Twitter.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  22. John, Darryn (19 Mawrth 2022). "First fully-built white Tesla Model Y spotted outside Giga Texas". Drive Tesla (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Mawrth 2022.
  23. Chambers, Ken (31 Hydref 2023). "East Austin factory would feature world's largest rooftop solar array". Austin Monitor.
  24. Lambert, Fred (29 Mehefin 2022). "Tesla ramps up Gigafactory Texas to thousands of units per week, adds new Model Y version". electrek.co.