Tesla Model Y
Mae Model Y Tesla yn SUV trydan maint canolig batri a adeiladwyd gan Tesla, Inc. ers 2020.
Enghraifft o'r canlynol | model y cerbyd |
---|---|
Math | crossover, Car trydan |
Màs | 2,003 cilogram |
Gwlad | UDA |
Rhagflaenwyd gan | Tesla Model 3 |
Gwneuthurwr | Tesla |
Hyd | 4,750 milimetr |
Gwefan | https://www.tesla.com/modely |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r Model Y yn seiliedig ar lwyfan sedan y Model 3,[1] ac mae 75 y cant o'i rannau'n gyffredin a llwyfan Model 3 Tesla,[2] gan gynnwys dyluniad mewnol ac allanol tebyg a'i seilwaith trydan. Mae'r Model Y yn llai costus na Model X Tesla canolig. [3] Fel y Model X, mae'r Model Y yn cynnig trydedd rhes o seddi, fel opsiwn.[4]
Dadorchuddiwyd y car ym Mawrth 2019 a dechreuodd y gwaith o'i gynhyrchu yn Ffatri Tesla yn Fremont yn mis Ionawr 2020,[5][6] agan ei ddosbarthu ar 13 Mawrth 2020.[7]
Yn chwarter cyntaf ac ail 2023, gwerthodd y Model Y yn well na'r Toyota Corolla, gan ddod y car sy'n gwerthu orau yn y byd, y cerbyd trydan cyntaf erioed i hawlio'r teitl hwnnw.[8][9]
Manylion technegol
golyguPwmp gwres
golyguModel Y yw cerbyd cyntaf Tesla i ddefnyddio pwmp gwres ar gyfer gwresogi caban mewnol y car.[10][11] [12] [13] Gall y pwmp gwres fod hyd at 300% yn fwy effeithlon na'r gwresogi gwrthiant trydan a arferid ei ddefnyddio.[14]
Roedd rhai cerbydau trydan gan weithgynhyrchwyr eraill, gan gynnwys y Nissan Leaf, Renault Zoe, BMW i3, Jaguar I-Pace, Audi e-tron, a Kia Niro, eisoes wedi defnyddio pympiau gwres yn eu ceir trydan.[15] Mae pympiau gwres Tesla, fodd bynnag, wedi cael eu canmol yn arw am ddefnyddio llawer llai o rannau.[16]
Radar
golyguNid oedd gan grbydau a gynhyrchwyd ers mis Mai 2021 radar ar gyfer adaptive cruise control.[17] Yn Chwefror 2022, agorodd y Weinyddiaeth Diogelwch Traffig Priffyrdd Cenedlaethol (National Highway Traffic Safety Administration yr UD) ymchwiliad i frecio diangen yn y cerbydau newydd hyn.+[18]
Fe wnaeth diwedddariad meddalwedd 20 Medi 2022 drawsnewid y ceir oedd a radar i Tesla Vision. Mae'r cymorth llywio wedi'i gyfyngu i 85 mya (137 km/awr), i lawr o 90 mya (140 km/awr) ac mae'r lleiafswm y pellter rhwng dau gar wedi'i newid i ddau hyd car (i lawr o un hyd car).
Derbyniad
golyguMae Model Y wedi cael derbyniad da iawn ar y cyfan gyda'r beirniaid yn canmol ymddangosiad y car, ei gyflymiad cyflym, y tu mewn ac ystod eang eraill o bethau. Fodd bynnag, fe feirniadwyd y modd yr oedd y cerbyd yn cael ei lywio a'i reid anesmwyth.[19] Yn ôl Top Gear, mae'r Model Y yn "gar gwych i fyw gydag ef".[20] Cyfeiriwyd at y Model Y hefyd fel yr arweinydd yn ei ddosbarth,[21] ond mae adolygwyr yn nodi bod cystadleuaeth yn cynyddu gyda nifer o ddewisiadau amgen yn dod i'r farchnad gan weithgynhyrchwyr eraill.[22]
Gwobrau
golyguYn 2023, enillodd Model Y Tesla 'Wobr Gwerth Gweddilliol Grŵp Autovista' yn y categori 'Compact and Large Battery-Electric Vehicle (BEV) SUV'.[23] Enillodd Model Y hefyd wobr 'y Car Cwmni Gorau' yng Ngwobrau Ceir Gorau Carbuyer 2024. [24]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Jaynes, Nick (January 29, 2016). "Tesla is working on multiple variations of the Model 3". Mashable. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 30, 2019. Cyrchwyd March 15, 2019.
- ↑ Lambert, Fred (April 8, 2020). "Tesla Model Y teardown: shows some great improvements over Model 3 despite sharing 75% of parts". Electrek (yn Saesneg). Cyrchwyd October 28, 2020.
- ↑ Lambert, Fred (August 2, 2017). "Tesla Model Y is coming to market sooner using Model 3 architecture, says Elon Musk". electrek. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 30, 2019. Cyrchwyd March 15, 2019.
- ↑ Lambert, Fred (December 2, 2019). "Tesla Model Y: rare glimpse at third-row seats". Electrek (yn Saesneg). Cyrchwyd February 27, 2020.
- ↑ Baldwin, Roberto (January 29, 2020). "Tesla Beats Expectations, Declares a Profit, and Has Started Model Y Production". Car and Driver (yn Saesneg). Hearst. Cyrchwyd February 27, 2020.
- ↑ Lambert, Fred (March 15, 2019). "Tesla unveils Model Y electric SUV with 300 miles range and 7-seats". Electrek (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 15, 2019. Cyrchwyd March 15, 2019.
- ↑ Dow, Jameson (March 13, 2020). "Tesla Model Y specs: we finally know how big it is". electrek.co. Cyrchwyd March 14, 2020.
- ↑ Munoz, Juan Felipe (2023-05-25). "Tesla Model Y Was The World's Best-Selling Car In Q1 2023". Motor1. Cyrchwyd 2023-05-26.
- ↑ Nichols, Dave (August 2023). "The Tesla Model Y Is The Best-Selling Car In The World". Green Cars. US. Cyrchwyd 2023-11-11.
- ↑ Lambert, Fred (March 24, 2020). "Elon Musk: Tesla Model Y heat pump is some of the best engineering I've seen in a while". Electrek. Cyrchwyd March 25, 2020.
- ↑ Erwin, Blane (March 26, 2020). "Model Y is the first Tesla with a heat pump. Here's why that's a big deal". Current Automotive. Cyrchwyd April 6, 2020.
- ↑ Schmidt, Bridie (March 18, 2020). "Model Y has heat pump to solve issue of range in cold weather". The Driven. Cyrchwyd March 25, 2020.
- ↑ "Tesla and other electric car batteries lose 40% of their range in extremely cold weather: AAA". MarketWatch. February 7, 2019. Cyrchwyd March 25, 2020.
- ↑ Claribelle Deveza, Ma. (March 23, 2020). "Tesla Model Y Heat Pump: Deep Dive and Closer Look". Tesmanian. Cyrchwyd March 25, 2020.
- ↑ Halvorson, Bengt (August 8, 2019). "Can heat pumps solve cold-weather range loss for EVs?". Green Car Reports. Cyrchwyd March 25, 2020.
- ↑ "Tesla Octovalve analysis". E-Mobility Engineering (yn Saesneg). 2021-08-08. Cyrchwyd 2023-10-02.
- ↑ Blanco, Sebastian (February 28, 2022). "Tesla Stops Putting Radar Sensors in New Model S and Model X EVs". Cyrchwyd July 3, 2022.
- ↑ "Tesla investigated over 'phantom braking' problem". BBC. February 18, 2022.
- ↑ Dorian, Drew (December 20, 2022). "2023 Tesla Model Y". Car and Driver. US. Cyrchwyd 2023-01-28.
- ↑ "Tesla Model Y review 2023". Top Gear. UK. December 30, 2022. Cyrchwyd 2023-01-28.
- ↑ Yekikian, Nick. "2023 Tesla Model Y". Edmunds. US. Cyrchwyd 2023-01-28.
- ↑ "Top Gear's big electric crossover test: Tesla Model Y vs rivals". Top Gear. UK. April 15, 2022. Cyrchwyd 2023-01-28.
- ↑ "Tesla Model Y wins the Compact and Large BEV SUV Autovista Group Residual Value Award 2023". Autovistagroup. Cyrchwyd 23 October 2023.
- ↑ "Carbuyer Best Car Awards 2024 - the winners". Carbuyer. Cyrchwyd 23 October 2023.