Gino Bechi
Bariton operatig o'r Eidal oedd Gino Bechi (16 Hydref 1913 - 2 Chwefror 1993).[1] Ganwyd Bechi yn Fflorens. Astudiodd canu yn Fflorens o dan hyfforddiant Raul Frazzi a Di Giorgi. Fe wnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn Empoli, Toscana ym 1936 yn chware rhan Germont yn La traviata, Verdi.
Gino Bechi | |
---|---|
Ganwyd | 16 Hydref 1913 Fflorens |
Bu farw | 2 Chwefror 1993 Fflorens |
Man preswyl | Fflorens |
Dinasyddiaeth | yr Eidal, Teyrnas yr Eidal |
Galwedigaeth | actor, canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | bariton |
Bu'n canu'n rheolaidd yn Rhufain rhwng 1938 a 1952 ac yn La Scala rhwng 1939 a 1953, gan gynnwys canu cymeriad y teitl yn Nabucco wrth i La Scala ail agor ym 1946 wedi'r Ail Ryfel Byd. Sefydlodd ei hun fel y bariton dramatig mwyaf flaenllaw yn yr Eidaleg, yn enwedig yn operâu Verdi. Roedd ei rolau hefyd yn cynnwys Gérard, Scarpia, Jack Rance, Tonio a Hamlet. Yn Llundain, fe ymddangosodd gyda chwmni La Scala yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1950 fel Iago a Falstaff, ac yn Drury Lane fel William Tell ym 1958. Roedd yn canu yn y premières o Rocca gan Monte Ivnor ym 1939 yn Rhufain a Don Juan de Manara gan Franco Alfano yn Fflorens ym 1941. Parhaodd Bechi i ganu hyd 1961, pan ymddangosodd fel Falstaff yn Siena ac yn Barbwr Sevilla yn Adria.
Bu farw yn Fflorens yn 79 mlwydd oed.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Great Book of Opera Singers, gol. Laura Macy (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2008), t.33
- ↑ Independent 16 Chwefror 1993 - Obituary: Gino Bechi Archifwyd 2017-10-07 yn y Peiriant Wayback adalwyd 30 Hydref 2018