Giordano Bruno
Athronydd, offeiriad a seryddwr Eidalaidd oedd Giordano Bruno (1548 – 17 Chwefror 1600). Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd iddo gael ei losgi am heresi.
Giordano Bruno | |
---|---|
Ffugenw | Il Nolano |
Ganwyd | Filippo Bruno Ionawr 1548 Nola |
Bu farw | 17 Chwefror 1600 o marwolaeth drwy losgi Rhufain |
Dinasyddiaeth | Kingdom of Naples |
Alma mater | |
Galwedigaeth | seryddwr, athronydd, bardd, ysgrifennwr, academydd, astroleg, mathemategydd, offeiriad Catholig |
Cyflogwr |
|
Prif ddylanwad | Averroes, Nicolaus Copernicus, Nicholas of Cusa, Lucretius, Ramon Llull, Marsilio Ficino |
Mudiad | Dyneiddiaeth y Dadeni, neo-Platoniaeth, neopythagoreanism |
Ganed ef yn Nola, Campania, yr adeg honno yn rhan o Deyrnas Napoli. Ei enw bedydd oedd Filippo Bruno. Pan oedd yn 11 oed, aeth i Napoli i atudio'r Trivium. Yn bymtheg oed, ymunodd ag Urdd y Dominiciaid, ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 1572.
Roedd ganddo ddiddordeb mewn athroniaeth, yn arbenigo yn y côf, gan ysgrifennu llyfrau ar dechnegau mnemonig. Credir fod ganddo gysylltiadau a Hermetigiaeth; dylanwadwyd arno hefyd gan ddamcaniaeth Copernicus fod y ddaear yn troi o amgylch yr haul, er fod ei ddiddordeb ef yn hyn yn fwy cyfriniol na gwyddonol.
Daeth ei syniadau ag ef i sylw'r Chwil-lys, a theithiodd i Geneva am gyfnod, cyn gadael am Ffrainc, yn gyntaf i Lyon, yna i Toulouse. Yn 1581 aeth i ddinas Paris, lle bu'n darlithio ar ddiwinyddiaeth. Cyhoeddodd nifer o lyfrau yn y cyfnod yma, er enghraifft De umbris idearum ("Cysgodion Syniadau", 1582) ac Ars Memoriae ("Celfyddyd Côf", 1582). Yn 1583 aeth i Loegr, lle daeth i gysylltiad a John Dee. Dychwelodd i Baris ym 1585, yna y flwyddyn wedyn aeth i'r Almaen lle bu'n darlithio yn Wittenberg.
Yn 1591 yn Frankfurt, cyfarfu a Giovanni Mocenigo a'i gwahoddodd i Fenis. Dychwelodd i'r Eidal a bu'n dysgu yn Padova am gyfnod cyn dynud i Fenis. Bu'n dysgu teulu Mocenigo am gyfnod, ond pan gyhoeddodd ei fod am adael, hysbysodd Mocenigo y Chwil-lys amdano. Cymerwyd ef i'r ddalfa ar 22 Mai, 1592 ar gyhuddiadau o gabledd a heresi. Gyrrwyd ef i Rufain yn Chwefror 1593. Bu ymg ngharchar yno am saith mlynedd cyn ei gael yn euog o heresi a'i losgi wrth y stanc.