Marsilio Ficino
Athronydd a diwinydd, dyneiddiwr, a chyfieithydd Eidalaidd oedd Marsilio Ficino (19 Hydref 1433 – 1 Hydref 1499) sydd yn nodedig fel yr ysgolhaig cyntaf i gyfieithu holl weithiau Platon i Ladin, ac un o brif ladmeryddion addysg glasurol—yn enwedig newydd-Blatoniaeth—yn ystod cyfnod y Dadeni Dysg.
Marsilio Ficino | |
---|---|
Marsilio Ficino fel y'i bortreadir yn y ffresgo Apparizione dell'angelo a Zaccaria (1486–90) gan Domenico Ghirlandaio. | |
Ganwyd | 19 Hydref 1433 Figline Valdarno |
Bu farw | 1 Hydref 1499 Villa Medici at Careggi |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, cyfieithydd, clerig, astroleg, bardd, llenor, meddyg |
Swydd | esgob |
Ganed ef yn Figline, Gweriniaeth Fflorens, yn fab i feddyg. Astudiodd y clasuron, gan gynnwys athroniaeth a meddygaeth Aristoteles, ac ymddisgleiriodd yn ei efrydiau. Fe'i penodwyd gan Cosimo de' Medici i diwtora ei ŵyr, Lorenzo de' Medici, a chafodd ei noddi hefyd gan Cosimo i gyfieithu gweithiau Platon o'r Roeg i'r Lladin ac i sefydlu academi yn Fflorens ym 1462 ar batrwm Academi Platon. Yn ogystal, cyflawnodd Ficino sawl esboniad ar waith Platon. Cyfieithodd Ficino hefyd sawl gwaith anadnabyddus o lenyddiaeth Hen Roeg i Ladin, gan hybu athroniaeth a llenyddiaeth glasurol ar draws yr Eidal. Ficino oedd un o feddylwyr blaenaf yr ysgol newydd-Blatonaidd, ac arddelai athrawiaeth Gristnogol sydd yn cymodi syniadau Platon am yr enaid. Amlinellir ei gredo yn ei waith enwocaf, Theologia Platonica de immortalitate animae ("Diwinyddiaeth Platon o'r Ysbryd Anfarwol", 1482). Yn ei waith De vita libri tres ("Tri Llyfr Bywyd", 1489), dadleuai o blaid defnydd swynoglau a sêr-ddewiniaeth, ac o'r herwydd fe'i cyhuddwyd o ddewiniaeth gan yr Eglwys.
Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ym 1473, ac yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn swyddog eglwysig yn Eglwys Gadeiriol Fflorens. Wedi i deulu'r Medici gael ei fwrw allan o Fflorens ym 1494, symudodd Ficino i gefn gwlad. Bu farw yn Careggi, ar gyrion Fflorens, yn 65 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Marsilio Ficino. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Medi 2022.