Giovanni di Bernardo Rucellai
dyneiddiwr, bardd a dramodydd Eidalaidd
Dyneiddiwr, bardd a dramodydd Eidalaidd oedd Giovanni di Bernardo Rucellai (20 Hydref 1475 – 13 Ebrill 1525). Ganed ef i deulu o uchelwyr cyfoethog yng Ngweriniaeth Fflorens, yn fab i Bernardo Rucellai a'i wraig Nannina, chwaer Lorenzo de' Medici. Gwasanaethodd y pabau Leo X a Clement VII, a fe'i penodwyd yn gastellydd Castel Sant'Angelo yn Rhufain, ac yno y bu farw yn Rhufain yn 49 oed. Rhoddwyd iddo'r enw "Il castellano" gan ei gyfaill Gian Giorgio Trissino.[1]
Giovanni di Bernardo Rucellai | |
---|---|
![]() Engrafiad o Giovanni di Bernardo Rucellai gan Giacomo Malosso yn y 19g, ar sail portread ym meddiant y teulu Rucellai. | |
Ganwyd | 20 Hydref 1475 ![]() Fflorens ![]() |
Bu farw | 3 Ebrill 1525 ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Fflorens ![]() |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, bardd, diplomydd, dramodydd ![]() |
Swydd | llysgennad ![]() |
Tad | Bernardo Rucellai ![]() |
Mam | Nannina de' Medici ![]() |
Perthnasau | Pab Leo X ![]() |
Llinach | teulu Rucellai ![]() |
Ysgrifennodd ddwy drasiedi, yn arddull y Groegwr Ewripides, Rosamunda (1515) ac Oreste (1525), ac hefyd cerdd ddidactig am wenyn, Le Api (cyhoeddwyd wedi ei farwolaeth ym 1539), ar sail pedwerydd llyfr y Georgicon gan y Rhufeiniwr Fyrsil.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Eidaleg) "Rucellài, Giovanni", Enciclopedia on line (Treccani). Adalwyd ar 4 Chwefror 2023.