Ken Dodd
Digrifwr a chanwr-cyfansoddwr oedd Syr Kenneth Arthur Dodd OBE (8 Tachwedd 1927 – 11 Mawrth 2018). Roedd yn enwog am ei ddannedd sy'n ymwthio allan, gwallt gwyllt, ei ddwstwr pluog (neu ei "ffon goglais" fel y cyfeiria ato), a'i ymadroddion ffraeth. Yn bennaf, roedd ei berfformiadau'n dilyn traddodiad y neuaddau gerddoriaeth traddodiadol, er ei fod wedi ymddangos mewn ambell ddrama yn y gorffennol, yn cynnwys chwarae rhan Malvolio yn nrama Shakespeare Twelfth Night ar lwyfan yn Lerpwl ym 1971. Roedd wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau'n fyd-eang.[1]
Ken Dodd | |
---|---|
Ganwyd | Kenneth Arthur Dodd 8 Tachwedd 1927 Knotty Ash |
Bu farw | 11 Mawrth 2018 Knotty Ash |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, digrifwr stand-yp, sgriptiwr, canwr, ysgrifennwr |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, one-line joke, neuadd gerddoriaeth |
Priod | Unknown |
Gwobr/au | OBE, Marchog Faglor |
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd yn faciwî o Lerpwl a daeth i fyw ar fferm ym Mhenmachno lle dywedir iddo ddysgu ychydig o Gymraeg.[2]
Fe'i ganwyd yn ardal Knotty Ash, Lerpwl lle bu'n byw drwy gydol ei oes a lle bu farw. Perfformiodd ei sioe olaf ar 28 Rhagfyr 2017, ond cafodd driniaeth yn yr ysbyty am haint yr ysgyfaint yn Ionawr 2018 a canslwyd weddill ei ddyddiadau perfformio am 2018. Priododd Dodd ei bartner ers 40 mlynedd, Anne Jones, ar 9 Mawrth 2018 yn eu tŷ yn Knotty Ash. Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach, yn 90 oed.[3]
Fel canwr
golyguSenglau
golygu- "Love Is Like A Violin" (1960; #8)
- "Tears" (1965; #1)
- "The River (Le Colline Sono In Fiore)" (1965; #3)
- "Promises" (1966; #6)
Teledu
golyguFel comediwr
golygu- The Ken Dodd Show (1960-69)
- The Ken Dodd Laughter Show (1979)
- Ken Dodd: In His Own Words (2017)
Fel actor
golygu- Doctor Who (1987)
- Alice in Wonderland (1999)
Llyfryddiaeth
golygu- Look At It My Way (2009)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Doddy brings happiness to South Wales (From Barry And District News). Barryanddistrictnews.co.uk (27 Mai 2009).
- ↑ (Saesneg) When Ken Dodd learned Welsh: People's Collection Wales evacuee memories plea. BBC Wales (26 Mawrth 2012). Adalwyd ar 13 Mawrth 2012.
- ↑ Syr Ken Dodd wedi marw yn 90 oed , Golwg360, 12 Mawrth 2018.