Gleann Cholm Cille

Mae Gleann Cholm Cille yn gwm yn Gaeltacht Donegal, ar lan Cefnfor Iwerydd yng ngogledd-gorllewin Iwerddon.

Gleann Cholm Cille
MathGaeltacht, tref Edit this on Wikidata
Poblogaeth238 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSwydd Donegal Edit this on Wikidata
SirSwydd Donegal, Glencolumbkille Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Uwch y môr20 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.7103°N 8.7203°W Edit this on Wikidata
Map
Gleann Cholm Cille o'r gopa Cionn Ghlinne
Bwthyn yn yr Amgueddfa Werin yn An Caiseal
Un o'r beddau Neolithig yn y cwm

Mae'n cymryd ei enw o Sant Colm Cille (Saesneg: St Columba), un o seintiau pwysicaf Iwerddon. Roedd e'n byw yn y cwm gyda'i ddilynwyr cyn symud, fel alltud, i Ynys Iona yn Yr Alban tua'r flwyddyn 565. Mae amryw o adfeilion eglwysi Colm Cille i'w gweld yn y cwm heddiw.

Ers 1984 mae'r ardal wedi bod yn enwog am yr Oideas Gael (Coleg Gwyddeleg), sy'n hyrwyddo iaith a diwylliant Iwerddon.

Yn nghanolfan y cwm ceir Amgueddfa Werin a sefydlwyd gan offeriad lleol, y Tad Séamus Mac Daidhir. Mae'r amgueddfa yn enwog am ei chasgliad o adeiladau traddodiadol lleol o'r 18fed, 19fed a'r 20fed canrif.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.