Glenys Mair Glyn Roberts

prifardd

Bardd a chyfieithydd[1] Cymraeg yw Glenys Mair Glyn Roberts. Hi oedd prifardd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.

Glenys Mair Glyn Roberts
Ganwyd1947 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, athro Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrifardd Edit this on Wikidata

Cefndir a theulu golygu

Ganwyd Glenys Mair Glyn Roberts yn Nyffryn Ceiriog, a chafodd ei magu ar Ynys Môn, ond mae hi'n byw yn Llantrisant.[2] Bu'n gweithio fel athrawes ac yn fwy diweddar fel cyfieithydd[1]. Mae ganddi dri o blant[2] a phump o wyrion[3].

Barddoniaeth golygu

Newid oedd testun cystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod 2010, ac roedd y tri beirniad yn unfryd eu barn mai hi oedd yn fuddugol. Y beirniaid oedd Mererid Hopwood, Jim Parc Nest ac Iwan Llwyd, a fu farw y flwyddyn honno.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Glenys yn cipio'r Goron" (yn Saesneg). 2010-08-02. Cyrchwyd 2021-09-26.
  2. 2.0 2.1 "Coroni ymgais gyntaf Glenys". Golwg360. 2010-08-02. Cyrchwyd 2021-09-26.
  3. (yn en) Cerddi AmGen ein Prifeirdd: Glenys Mair Glyn Roberts, https://www.youtube.com/watch?v=5DVHvf2CMjI, adalwyd 2021-09-26
  4. "Coroni ymgais gyntaf Glenys". Golwg360. 2010-08-02. Cyrchwyd 2021-09-26.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.