Iwan Llwyd
Bardd, Prifardd a cherddor oedd Iwan Llwyd Williams (15 Tachwedd 1957 – 28 Mai 2010).[1][2]
Iwan Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 15 Tachwedd 1957 Carno |
Bu farw | 28 Mai 2010 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Ganed Iwan Llwyd yng Ngharno, Powys, cyn symyd i Dal-y-bont, Dyffryn Conwy, ac yna i Fangor yn 10 oed. Mynychodd Ysgol Gynradd Tal-y-bont, Conwy, Ysgol Gymraeg Sant Paul, Bangor ac Ysgol Friars, Bangor cyn astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl iddo raddio gydag MA mewn barddoniaeth ganol oesol, dechreuodd weithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus cyn mynd yn hunan-gyflogedig.[3]
Daeth yn enwog fel bardd wedi iddo ennill y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 1990,[4] ar y testun "Gwreichion". Cafodd ei lyfr, Be 'Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?: Cerddi 1990-99, ei restru ar Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn, 2004.
Yn gerddor yn ogystal â bardd, fu'n canu'r gitâr fas gyda Geraint Lövgreen a'r Enw Da, yn ogystal â gyda Steve Eaves. Roedd yn aelod o'r grŵp Doctor ar ddechrau'r 1980au.[5]
Roedd yn un o sefydlwyr y mudiad iaith Cymuned.[6]
Bu farw yn ei fflat ym Mangor yn 52 mlwydd oed. Yn ôl y cwest, canfuwyd ei gorff ychydig ddyddiau ar ôl iddo farw, a cofnododd y crwner achos o farwolaeth naturiol.[7]
Llyfryddiaeth
golygu- Cyfres y Beirdd Answyddogol: Sonedau Bore Sadwrn (Y Lolfa, 1983)
- Llwybro â Llafur at Lynllifon (Cyngor Sir Gwynedd, ?1987)
- Dan fy Ngwynt (Gwasg Taf, 1992)
- Dan Ddylanwad: Cerddi 'Mericia, Canada a Chymru (Gwasg Taf, 1997)
- Owain Glyn Dŵr 1400-2000 (gyda Gillian Clarke) (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 2000)
- Syched am Sycharth - Cerddi a Chwedlau Taith Glyndŵr (gyda Myrddin ap Dafydd, Twm Morys, Ifor ap Glyn, Geraint Lövgreen) (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
- Môr a Mynydd - Eryri a'r Glannau o'r Awyr / Surf and Skylines: Snowdonia and its Shores from the Sky (gyda Gwilym Davies) (Gwasg Carreg Gwalch, 2001)
- Be ’Di Blwyddyn Rhwng Ffrindia?: Cerddi 1990-99 (Gwasg Taf, 2003)
- Hon: Ynys y Galon: Delweddau o Ynys Gwales yng Ngwaith Iwan Bala (gyda Iwan Bala, Sioned Davies, Siân Melangell Dafydd, Jon Gower, Mererid Hopwood, Bethan Mair, John Meirion Morris, Twm Morys) (Gwasg Gomer, 2007)
- Hanner Cant (Gwasg Taf, 2007)
- Rhyw Deid yn Dod Miwn (gydag Aled Rhys Hughes) (Gwasg Gomer, 2008)
- Sonedau Pnawn Sul (Gwasg Carreg Gwalch, 2009)
Gwobrau ac Anrhydeddau
golyguCyfieiriadau
golygu- ↑ Proffil ar wefan Plant ar-lein[dolen farw]
- ↑ "Death of Welsh language poet Iwan Llwyd, aged 52" BBC News, 28 Mai 2010; adalwyd 28 Hydref 2010
- ↑ Gwefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru[dolen farw]. Adalwyd ar 30 Mai 2010
- ↑ "Colli Iwan Llwyd". Golwg 360. 2010-05-28.
- ↑ "Beirdd mewn bandiau". 2015-06-01. t. 10. Cyrchwyd 2019-09-30.
- ↑ BBC Cymru
- ↑ Iwan Llwyd – cwest yn cofnodi marwolaeth naturiol , Golwg 360, 26 Awst 2010.