Glesyn cyffredin

gloyn byw
Glesyn Cyffredin
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Lycaenidae
Llwyth: Polyommatini
Genws: Polyommatus
Rhywogaeth: P. icarus
Enw deuenwol
Polyommatus icarus
(Rottemburg, 1775)

Glöyn byw sydd yn gyffredin ar dir agored caregog gwyllt, yn enwedig ar arfordir gogledd a gorllewin Cymru yw'r Glesyn cyffredin sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy Gleision cyffredin; yr enw Saesneg yw Common blue, a'r enw gwyddonol yw Polyommatus icarus.[1][2] Mae'r wyau yn llwyd-wyrdd a'r lindysyn yn deor ymhen naw diwrnod.

Fel arfer mae'r fenyw yn frown, ond mae ffurf yn bodoli sy'n las.

Yn yr un teulu mae'r Glesyn serennog a'r Glesyn bach.

Oedolion

Cynefin

golygu

Ei gynefin arferol ydy gogledd Ewrop, Asia a gogledd Affrica, ond rhwng 2005 a 2008 cafodd y glöyn hwn ei ddarganfod a'i arsylwi yn Mirabel, Quebec, Canada gan entomolegydd amatur o'r enw Ara Sarafian.

Mae'r siani flewog yn bwyta dail Lathyrus spp., Vicia spp., Vicia cracca, Oxytropis campestris, Lotus corniculatus, Trifolium pratense, Oxytropis pyrenaica, Astragalus aristatus, Astragalus onobrychis, Astragalus pinetorum, Medicago romanica, Medicago falcata a Trifolium repens.

Cyffredinol

golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r glesyn cyffredin yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Cyfeiriadau

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.