Glynog Davies
Darlledwr a chynhyrchydd teledu o Gymro yw Glynog Davies (ganwyd 2 Tachwedd 1950).[1]
Glynog Davies | |
---|---|
Ganwyd | 2 Tachwedd 1950 |
Man preswyl | Brynaman |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynhyrchydd teledu, cyflwynydd teledu |
Bywgraffiad
golyguMagwyd John Glynog Davies ym Mrynaman, lle mae'n parhau i fyw. Aeth i'r brifysgol ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd lle graddiodd yn y gwyddorau.
Cychwynodd ei yrfa fel aelod o'r tîm bychan a sefydlodd Sain Abertawe yn 1974. Symudodd i weithio gyda HTV Cymru yn 1977 pan benodwyd ef yn gynhyrchydd y gorllewin. Roedd yn newyddiadurwr ar raglen newyddion Y Dydd ac Y Byd ar Bedwar.[2]
Yn 1988 roedd yn un o'r bobol a sefydlodd Gwmni Teledu Agenda (Tinopolis yn ddiweddarach), a enillodd gytundeb i ddarparu rhaglen gylchgrawn Heno i S4C.[3] Yn 1999, daeth yn uwch gynhyrchydd y rhaglen gylchgrawn Prynhawn Da. Roedd hwn yn raglen newydd i lenwi oriau y prynhawn ar sianel newydd S4C Digidol.[4] Bu hefyd yn gyflwynydd a gohebydd ar Heno a Prynhawn Da. Ymddeolodd o'i swydd gyda Tinopolis ar ddiwedd Chwefror 2024.[5]
Mae’n organydd ym Moriah, Brynaman, yn ogystal â bod yn flaenor ac yn ysgrifennydd gohebol yno. Roedd yn gyfrifol am sefydlu Menter Iaith Aman Tawe. Mae'n gynghorydd dros Blaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr ers 2017.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "AGENDA TELEVISION LIMITED filing history - Find and update company information - GOV.UK". find-and-update.company-information.service.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-03-30.
- ↑ "Tu ôl i'r meic". BBC Cymru Fyw. 2014-12-26. Cyrchwyd 2024-03-30.
- ↑ "Heb Gategori – Gorsedd Cymru". Gorsedd Cymru. 2019-07-07. Cyrchwyd 2024-03-30.
- ↑ "Prynhawn Da - 29 Mawrth 2024". Cyrchwyd 2024-03-30.
- ↑ "Instagram Heno". www.instagram.com. Cyrchwyd 2024-03-30.
- ↑ "Councillor manylion - Cyng. Glynog Davies". democratiaeth.sirgar.llyw.cymru. 2024-03-30. Cyrchwyd 2024-03-30.