Agricola
Milwr a gwladweinydd o Rufeiniad oedd Gnaeus Julius Agricola neu Agricola (13 Mehefin 40 - 23 Awst 93 O.C.), a aned yn nhref Forum Julii yn nhalaith Gallia Narbonensis (Fréjus heddiw, ym Mhrofens, de Ffrainc). Ysgrifenodd ei fab-yng-nghyfraith Tacitus fywgraffiad canmoliaethus ar Agricola, y De vita Iulii Agricolae (neu'r Agricola). Dyma brif ffynhonnell ein gwybodaeth amdano, ynghyd â'r Annales (llyfr arall gan Tacitus).
Agricola | |
---|---|
| |
Ganwyd |
13 Gorffennaf 0040 ![]() Fréjus ![]() |
Bu farw |
23 Awst 0093, 93 ![]() Achos: llofruddiaeth ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth |
Rhufain hynafol ![]() |
Galwedigaeth |
gwleidydd, person milwrol ![]() |
Swydd |
seneddwr Rhufeinig, tribune of the plebs, llywodraethwr Rhufeinig, Praetor, quaestor, Conswl Rhufeinig ![]() |
Tad |
Lucius Julius Graecinus ![]() |
Mam |
Julia Procilla ![]() |
Priod |
Domitia Decidiana ![]() |
Plant |
Julia Agricola ![]() |
- Gweler hefyd Agricola (gwahaniaethu).
Gwasanaethodd ym Mhrydain, Asia ac Aquitania gan ennill bri iddo'i hun. Cafodd ei ethol yn gonswl yn 77 O.C. a dychwelodd i Brydain fel llywodraethwr ar y dalaith newydd yn 77 neu 78, yn olynydd i Sextus Julius Frontinus. Agricola oedd yn bennaf cyfrifol am osod awdurdod Rhufain ar y llwythau Celtaidd ym Mhrydain a oedd yn dal i wrthsefyll y trefedigaethwyr Rhufeinig. Ychydig cyn iddo gyrraedd Prydain fel llywodraethwr yr oedd yr Ordoficiaid yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru wedi codi mewn gwrthryfel ac wedi llwyr ddinistrio corff o ŵyr meirch. Arweiniodd Agricola ymgyrch yn eu herbyn yn syth ar ôl cyrraedd Prydain, a'u llwyr orchfygu. Yn ôl Tactitus, lladdodd bob copa gwalltog o'r llwyth, ond o ystyried natur tiriogaeth y llwyth yma prin y byddai hynny'n bosibl.
Yn 80 ac 81 ymestynnodd reolaeth Rhufain i dde'r Alban a gorchfygodd byddin Calgacus ym Mrwydr Mons Graupius. Ar ôl y fuddugoliaeth honno hwyliodd â'i lynges fechan oddi amgylch arfordir gogleddol Prydain, gan brofi am y tro cyntaf ei bod yn ynys. Ond enynnodd llwyddiant Agricola genfigen Domitianus a chafodd ei alw yn ôl i Rufain yn 84.
LlyfryddiaethGolygu
- H. Mattingly (cyf.), Tacitus: On Britain and Germany (Llundain, 1946 ac wedyn). Ceir yr Agricola yn rhan gyntaf y llyfr, a bywgraffiad.