Coedwig

(Ailgyfeiriad o Goedwig)

Ardal gyda dwysedd uchel o goed yw coedwig (neu fforest). Mae gan goedwig nifer o wahanol ddifiniadau yn seiliedig ar amryw o feini prawf[1]. Diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru yw "Darn helaeth o dir ag amlder o goed a phrysglwyni’n tyfu’n naturiol arno, yn nodedig gynt fel lloches i anifeiliaid gwylltion o bob math, fforest, gwig, llwyn choed yr arferid hela ynddo".[2] Dywed y Sefydliad Bwyd ac Amaeth, mae fforestydd yn gorchuddio tua pedair biliwn hectar (15 miliwn milltir sgwâr).[3]

Chase Wood, Newbury
Fideo gan Gyfoeth Naturiol Cymru - yn dangos ceffylau gwedd yn gweithio mewn coedwig.

Gellir dweud mai fforsetydd yw prif ecosystem y Ddaear, ac maent i'w cael ledled y byd.[4] Dyma 75% o gynnyrch cynradd biosffer y Ddaear, ac 80% o fiomas y Ddaear. Ceir coetiroedd dros 250,000ha, sef 12% o arwynebedd Cymru.[5]

Coedwigaeth

golygu

Rheolir coed a choedwigoedd Cymru gan Cyfoeth Naturiol Cymru (yr hen Comisiwn Coedwigaeth Cymru) sy'n rheoli diwydiant coedwigaeth y wlad, er budd economaidd. Mae'r comisiwn llywodraethol hwn yn berchen ar ystadau mawr er mwyn elwa ar bren a chyfloedd masnachol eraill coetiroedd, megis gweithgareddau awyr agored a gwarchod coed hynafol a'r bywyd gwyllt a geir ynddynt.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Definitions of Forest, Deforestation, Afforestation, and Reforestation. Gainesville, VA: Forest Information Services, Gyde H Lund, (cydlunydd) 2006
  2.  coedwig. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Ionawr 2021.
  3. "Forest definition and extent" (PDF). United Nations Environment Programme. 2010-01-27. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-07-26. Cyrchwyd 2014-11-16.
  4. Pan, Yude; Birdsey, Richard A.; Phillips, Oliver L.; Jackson, Robert B. (2013). "The Structure, Distribution, and Biomass of the World’s Forests". Annu. Rev. Ecol. Evol. Syst. 44: 593–62. doi:10.1146/annurev-ecolsys-110512-135914. http://www.nrs.fs.fed.us/pubs/jrnl/2013/nrs_2013_pan_001.pdf. Adalwyd 2017-03-07.
  5. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru, 2008; Prif Olygydd: John Davies; tud 178.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Chwiliwch am coedwig
yn Wiciadur.