Gogynfeirdd

(Ailgyfeiriad o Gogynfardd)

Gogynfeirdd yw'r enw traddodiadol ers y ddeunawfed ganrif ar y beirdd hynny a ganai yn y cyfnod rhwng y Cynfeirdd ac oes y cywyddwyr a Beirdd yr Uchelwyr. I bob pwrpas mae'n golygu Beirdd y Tywysogion, sef y beirdd a ganai yn Oes y Tywysogion, rhwng hanner cyntaf y 11g a cholli annibyniaeth Cymru yn 1282. Fe'i gelwid yn Ogynfeirdd ('beirdd go gynnar') mewn cyferbyniaeth â'r Cynfeirdd cynharach. Lewis Morris oedd un o'r cyntaf i ddefnyddio'r gair. Ond mae'r term yn cael ei ddefnyddio weithiau i gynnwys hefyd ambell fardd a ganai ar ddiwedd y 13g ac yn negawdau cynnar y ganrif olynol, e.e. Casnodyn, Gwilym Ddu o Arfon a Gruffudd ap Dafydd ap Tudur.

Yn y llawysgrifau Cymreig enwir sawl bardd arall a ganai yn y cyfnod hwnnw, yn ôl traddodiad, ond mae eu gwaith naill ai ar goll neu'n perthyn i gyfnod diweddarach. Y pwysicaf o'r 'beirdd coll' hyn yw'r brudiwr Adda Fras.

Doedd 'na ddim toriad sydyn rhwng cyfnod y Gogynfeirdd a chyfnod Beirdd yr Uchelwyr, a gwelir rhai nodweddion o'u gwaith, megis cystrawen astrus, geirfa hynafiaethol ac ati, yng ngwaith beirdd hanner cyntaf y 14g.

Gweler hefyd golygu