Adda Fras
Yn ôl traddodiad, bardd o Oes y Tywysogion oedd Adda Fras (fl. ?1240 - 1320?). Ychydig a wyddys amdano ac mae'r dystiolaeth yn ansicr. Roedd yn frudiwr enwog.[1]
Adda Fras | |
---|---|
Ganwyd | c. 1240 |
Bu farw | c. 1320 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguYn ôl un ffynhonnell fe'i cysylltir ag "Aber Llechog" yng Ngwynedd Is Conwy (Y Berfeddwlad), ond mae lleoliad Aber Llechog yn anhysbys. Mae'n bosibl mai Porth Llechog (Bull Bay) ar Ynys Môn a olygir (ceir Llechog yn enw ar un o gopaon Yr Wyddfa yn Eryri yn ogystal). Roedd un o'r 'trefi' yn ymyl y bae hwnnw o'r enw 'Llechog', yng nghwmwd Twrcelyn, cantref Cemais.[2]
Dywedir iddo gael ei gladdu yn 'abaty Maenan', sef ail safle Abaty Aberconwy, yn Nyffryn Conwy ger Llanrwst. Symudwyd yr abaty ar orchymyn Edward I o Loegr yn 1284. Os gwir iddo gael ei gladdu yn yr abaty mae hynny'n awgrymu ei fod yn ŵr o dras digon parchus.[2]
Cerddi
golyguCeir nifer o gerddi darogan a briodolir iddo yn y llawysgrifau ond maen nhw i gyd yn ddiweddarach na'i gyfnod ac yn perthyn i gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau ac ymgyrch Harri Tudur. Fel yn achos Taliesin, roedd Adda Fras wedi troi'n gymeriad 'traddodiadol' gyda brudwyr diweddarach yn tadogi eu cerddi arno.[1]
Gweler hefyd
golyguErthygl Adda Fras yng Ngeiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I ar Wicidestun
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1992).
- ↑ 2.0 2.1 John Jones (Myrddin Fardd), Llên gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1908), t. 113.