Marchnad Qissariya

(Ailgyfeiriad o Gold Market)

Mae'r Farchnad Aur (Arabeg: سوق الذهب; Souk ad-Dahab) ; a elwir hefyd yn Farchnad Qissariya, (Arabeg: سوق القيسارية‎ ) yn llwybr gul gyda tho (hy wedi'i gorchuddio) yn Hen Ddinas Gaza, yng Ngwladwriaeth Palesteina.

Marchnad Qissariya
Mathcovered passageway, marchnad Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1476 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Gaza Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Yn ffinio gydaOmar Mukhtar Street Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.5031°N 34.4639°E Edit this on Wikidata
Map

Mae'r Farchnad Aur yn ganolfan bwysig ar gyfer masnachu a phrynu aur, ac ar gyfer cyfnewid tramor.[1] Saif y Farchnad ar hyd ymyl ddeheuol Mosg Mawr Gaza,[2] wrth ymyl prif Stryd Omar Mukhtar. Coronir y farchnad gan do pigfain a chromennog, sydd wedi'i leinio ar y ddwy ochr gan siopau bach, gyda phob siop hefyd wedi'u toi'n dwt.

Yn 1476, gorchmynnodd barnwr Gaza, sef Sheikh Shams ad-Din al-Himsi adeiladu'r Farchnad Aur, dan reolaeth y Mamluk ym Mhalestina. Yn wreiddiol, roedd y Farchnad yn rhan o farchnad dan do lawer mwy, ond dinistriwyd y rhan fwyaf o'r ardal gan Fyddin Lloegr yn y 1940au.[2]

Trwy gydol y rhan fwyaf o'r 20g a'r 21g, prif ymwelwyr y farchnad yw dynion a menywod ar fin priodi, cwsmeriaid sy'n dewis gemwaith aur; yma hefyd y daw mamau-yng-nghyfraith i brynu anrhegion i'w merched-yng-nghyfraith. Fodd bynnag, oherwydd prinder bwyd, trydan a hanfodion bywyd yn Gaza oherwydd rhwystr Israel yn Llain Gaza, mae'r Farchnad Aur yn cael ei defnyddio'n bennaf gan pobl oedrannus Gaza sy'n gwerthu gemau a thlysau'r teulu i godi arian i brynu bwyd.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Jacobs, 1998, p.454.
  2. 2.0 2.1 2.2 Gold Market Review Archifwyd 2014-03-15 yn y Peiriant Wayback Lonelyplanet.

Llyfryddiaeth

golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Balesteina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato