Mosg Mawr Gaza (Arabeg: جامع غزة الكبير‎, trawslythreniad: Jāma' Ghazza al-Kabir) a elwir hefyd yn y Mosg Mawr Omari (Arabeg: المسجد العمري الكبير‎, Jāmaʿ al-ʿUmarī al-Kabīr ) yw'r mosg mwyaf a'r hynaf yn Llain Gaza; fe'i lleolir yn hen ddinas Gaza. Mae'r mosg yn dal i fod ar agor, ac yn ganolfan sy'n darparu cymorth ar gyfer galar, iechyd meddwl a chorfforol i drigolion Gaza, ac yn symbol o falchder Palesteinaidd.[1]

Mosg Enfawr Gaza
Mathmosg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 5 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAl-Daraj Edit this on Wikidata
SirDinas Gaza Edit this on Wikidata
GwladBaner Palesteina Palesteina
Arwynebedd1,800 m² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.504°N 34.4644°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Islamaidd, Mamluk architecture, pensaernïaeth Normanaidd Edit this on Wikidata
Crefydd/EnwadIslam Edit this on Wikidata
Deunyddkurkar Edit this on Wikidata

Credir fod y mosg yn sefyll ar safle teml Philistaidd hynafol; defnyddiwyd y safle gan y Bysantaidd i godi eglwys yn y 5g, ond ar ôl y goncwest Fwslimaidd yn y 7g, cafodd ei thrawsnewid yn fosg. Disgrifiwyd yr adeilad yn "hardd" gan ddaearyddwr Arabaidd o'r 10g, cafodd minaret y Mosg Mawr ei ddymchwel mewn daeargryn yn 1033.

Yn 1149, adeiladodd y Croesgadwyr eglwys fawr, ond fe'i dinistriwyd yn bennaf gan yr Ayyubids ym 1187, ac yna ei hailadeiladu fel mosg gan y Mamluks ar ddechrau'r 13g. Fe'i dinistriwyd gan y Mongols ym 1260, yna cafodd ei adfer yn fuan dim ond iddo gael ei ddinistrio drachefn gan ddaeargryn ar ddiwedd y ganrif. Cafodd y Mosg Mawr ei adfer eto gan yr Otomaniaid tua 300 mlynedd yn ddiweddarach.

Wedi'i ddifrodi'n ddifrifol ar ôl cael ei beledu gan gannonau Lloegr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, adferwyd y mosg ym 1925 gan y Cyngor Mwslimaidd Goruchaf.

Lleoliad golygu

Lleolir y Mosg Mawr yn Chwarter Daraj yr Hen Ddinas yn Downtown Gaza ym mhen dwyreiniol Stryd Omar Mukhtar, i'r de-ddwyrain o Sgwâr Palesteina.[2] Mae Marchnad Aur Gaza wedi'i lleoli ar draws y ffordd, ar yr ochr ddeheuol, ac i'r gogledd-ddwyrain mae Mosg Katib al-Wilaya ac i'r dwyrain, ar Stryd Wehda , ceir ysgol i ferched.[3]

Hanes golygu

Gwreiddiau Philistiaid golygu

 
Ysgythriad Menorah, 1873 [4]

Yn ôl y traddodiad, saif y mosg ar safle teml y Philistiaid sydd wedi'i gysegru i Dagon - duw ffrwythlondeb - a ddymchwelwyd gan Samson yn Llyfr y Barnwyr . Yn ddiweddarach, codwyd teml wedi'i chysegru i Marnas —god glaw a grawn y Ffilistiaid.[5][6] Dywed chwedl leol, gyfoes bod Samson wedi’i gladdu o dan y mosg presennol.[7]

Eglwys Fysantaidd golygu

Codwyd yr adeilad yn 406 OC fel eglwys Fysantaidd fawr gan yr Ymerodres Aelia Eudocia,[6][8] er ei bod hefyd yn bosibl i'r eglwys gael ei hadeiladu gan yr Ymerawdwr Marcian.  Ymddangosodd yr eglwys ar Fap Madaba o'r Wlad Sanctaidd a wnaed yn 6g.[8]

Mosg Mwslimaidd cynnar golygu

 
Cwrt, arcedau a minaret y mosg, diwedd y 19g
 
Mae ffasâd gorllewinol y Mosg Mawr yn adlewyrchu arddull bensaernïol y Croesgadwyr. Llun wedi'i dynnu ar ôl bomio gan RAF Lloegr ym 1917

Trawsnewidiwyd yr eglwys Fysantaidd yn fosg yn y 7g gan gadfridogion Omar ibn al-Khattab[1][2] ym mlynyddoedd cynnar rheol Rashidun.[8] Mae'r mosg yn dal i gael ei enwi fel "al-Omari", er anrhydedd i Omar ibn al-Khattab a oedd yn galiph yn ystod concwest Fwslimaidd Palestina.[2][9]

Eglwys y Croesgadwyr golygu

Yn 1149 adeiladodd y Croesgadwyr, a oedd wedi goresgyn Gaza ym 1100, eglwys fawr ar ben adfeilion yr eglwys ar orchymun Baldwin III o Jerwsalem (teulu o Ffrainc yn wreiddiol).[10] Fodd bynnag, yn nisgrifiadau William of Tire o eglwysi mawreddog y Crusader, ni chrybwyllir hon.[8] O dair ystlys y Mosg Mawr, credir bod rhannau o ddwy ohonyn nhw yno yng nghyfnod y Croesgadwyr.[10]

Mosg Mamluk golygu

Ail-luniodd y Mamluks y mosg yn y 13g, ond ym 1260, dinistriwyd hi gan Ymerodraeth y Mongol ef.[11] Cafodd ei ailadeiladu wedi hynny, ond ym 1294, achosodd daeargryn iddo gwympo.[7] Gwnaed gwaith adnewyddu helaeth gan lywodraethwr Sunqur al-Ala'i yn ystod swltanad Husam ad-Din Lajin rhwng 1297-99.[12]

Comisiynodd llywodraethwr y ddinas, Sanjar al-Jawli, adfer y Mosg Mawr rywbryd rhwng 1311 a 1319.[8] Ailadeiladodd y Mamluks y mosg yn llwyr ym 1340.[13] Yn 1355 nododd y daearyddwr Mwslimaidd Ibn Battuta fodolaeth y mosg yn flaenorol fel "mosg dydd Gwener braf," ond dywed hefyd fod mosg al-Jawli wedi'i "adeiladu'n dda." [14] Mae arysgrifau ar y mosg yn dwyn llofnodion swltaniaid y Mamluk: al-Nasir Muhammad (dyddiedig 1340), Qaitbay (Mai 1498), Qansuh al-Ghawri (1516), a'r Abbasid caliph al-Musta'in Billah (1412) .[15]

Cyfnod Otomanaidd golygu

Yn yr 16g adferwyd y mosg ar ôl difrod yn y ganrif flaenorol; comisiynodd yr Otomaniaid y gwaith a hefyd fe godon nhw chwe mosg arall yn y ddinas. Roeddent wedi bod yn rheoli Palesteina ers 1517.[7] Ceir arysgrif ar y tu mewn: enw llywodraethwr Otomanaidd Gaza, sef Musa Pasha, brawd Husayn Pasha, sy'n dyddio o 1663.[1]

Rhyfel Byd Cyntaf golygu

Adroddodd rhai o deithwyr y Gorllewin ar ddiwedd y 19g mai'r Mosg Mawr oedd yr unig strwythur yn Gaza a oedd yn hanesyddol neu bensaernïol bwysig.[16][17] Er hyn, difrodwyd y Mosg Mawr yn ddifrifol gan Loegr a'u cynghreiriaid wrth ymosod ar safleoedd yr Otomaniaid yn Gaza yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Honnodd y Prydeinwyr fod arfau rhyfel Otomanaidd yn cael eu storio yn y mosg ac achoswyd ei ddinistrio pan daniwyd y arfau rhyfel gan y bomio.

Mandad Prydain golygu

O dan oruchwyliaeth cyn-faer Gaza, Said al-Shawa, cafodd ei adfer gan y Cyngor Mwslimaidd Goruchaf ym 1926-27.[18]

 
Y mosg yn y 1950au neu'r 1960au.

Honnir bod yr arysgrifau hynafol Iddewig wedi'u torri i ffwrdd yn fwriadol gyda chyn, ar ryw adeg rhwng 1987 a 1993.[19] Mae'r mosg yn dal i fod ar agor, ac yn ganolfan sy'n darparu cymorth ar gyfer galar, iechyd meddwl a chorfforol i drigolion Gaza, ac yn symbol o falchder Palesteinaidd.[1]

Pensaernïaeth golygu

 
Corff canolog y mosg, wrth edrych tua'r gorllewin, ar ôl bomio gan luoedd arfog Lloegr ym 1917

Mae gan y Mosg Mawr arwynebedd o 4,100 metr sgwar (44,000 tr sg).[1] Adeiladwyd y rhan fwyaf o'r strwythur cyffredinol o dywodfaen morol lleol o'r enw kurkar.[20] Mae'r mosg yn ffurfio sahn mawr (cwrt neu fuarth) wedi'i amgylchynu gan fwâu crwn. Roedd gan y Mamluks, ac yn ddiweddarach yr Otomaniaid, ymestyniadau ar yr ochrau deheuol a de-ddwyreiniol yr adeilad.[3]

Uwch ben y prif ddrws, ceir arysgrif sy'n cynnwys enw'r swltan Mamluk, sef Qalawun, ac mae arysgrifau hefyd sy'n cynnwys enwau'r swltaniaid Lajin a Barquq.[21]

Tu mewn golygu

Pan drawsnewidiwyd yr adeilad o eglwys i fosg, disodlwyd y rhan fwyaf o adeiladwaith blaenorol y Croesgadwyr yn llwyr, ond mae ffasâd y mosg gyda'i fynedfa orllewinol fwaog yn ddarn nodweddiadol o bensaernïaeth eglwysig[22] ac mae colofnau o fewn y mosg yn dal i fodoli lle cedwir at y steil Gothig Eidalaidd. Mae rhai o'r colofnau wedi'u nodi fel elfennau o synagog hynafol, wedi'u hailddefnyddio fel deunydd adeiladu yn ddiweddarach, ac yn dal i fod yn rhan o'r mosg.[23] Yn fewnol, mae wynebau'r waliau wedi'u plastro a'u paentio. Defnyddir marmor ar gyfer y drws gorllewinol ac ocwlws y ffasâd gorllewinol. Mae'r lloriau wedi'u gorchuddio â theils gwydrog; marmor hefyd yw'r colofnau, a'r rheiny mewn arddull blodeuogCorinthian.[20]

Minarét golygu

Mae'r mosg yn adnabyddus am ei Minarét, sydd â siâp sgwâr yn ei hanner isaf ac wythochrog octagonal yn ei hanner uchaf, sy'n nodweddiadol o arddull bensaernïol Mamluk. Mae'r minaret wedi'i adeiladu o gerrig o'r gwaelod i'r balconi crog uchaf, gan gynnwys yr hanner uchaf pedair haen. Codwyd y pinacl yn bennaf o waith coed a theils, ac mae'n cael ei adnewyddu'n aml. Ceircwpanola syml sy'n tarddu o'r drwm carreg wythochrog ac mae o wneuthuriad ysgafn tebyg i'r mwyafrif o fosgiau yn y Lefant.[24] Saif y minaret ar ddiwedd bae dwyreiniol eglwys y Croesgadwyr. Trawsnewidiwyd ei dri cromfan hanner cylch i waelod y minaret.[25]

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu

  • Mosg al-Hashim Sayed

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Palestinians pray in the Great Omari Mosque in Gaza Archifwyd 2013-10-20 yn y Peiriant Wayback.. Ma'an News Agency. 2009-08-27.
  2. 2.0 2.1 2.2 Gaza- Ghazza Palestinian Economic Council for Development and Reconstruction.
  3. 3.0 3.1 Winter, 2000, p.429.
  4. (1896): Archaeological Researches in Palestine 1873-1874, [ARP], translated from the French by J. McFarlane, Palestine Exploration Fund, London. Volume 2, Page 392.
  5. Daniel Jacobs, Israel and the Palestinian territories, Rough Guides, 1998, p.454.
  6. 6.0 6.1 Dowling, 1913, p.79.
  7. 7.0 7.1 7.2 Ring and Salkin, 1994, p.290.
  8. 8.0 8.1 8.2 8.3 8.4 Pringle, 1993, pp. 208-209.
  9. Elnashai, 2004, p.23.
  10. 10.0 10.1 Briggs, 1918, p.255.
  11. Ring and Salkin, 1994, p.289.
  12. Sharon, 2009, p. 76.
  13. Gaza at the crossroads of civilisations: Gaza timeline Musée d'Art et Histoire, Geneva. 2007-11-07.
  14. Ibn Battuta quoted in le Strange, 1890, p.442.
  15. Sharon, 2009, p.33.
  16. Porter and Murray, 1868, p.250.
  17. Porter, 1884, p.208.
  18. Kupferschmidt, 1987, p.134.
  19. Shanks, Hershel. "Peace, Politics and Archaeology". Biblical Archaeology Society.
  20. 20.0 20.1 Pringle, 1993, p.211.
  21. Meyer, 1907, tud.111.
  22. Winter, 2000, p.428.
  23. Shanks, Hershel. "Peace, Politics and Archaeology". Biblical Archaeology Society
  24. Sturgis, 1909, pp.197-198.
  25. Pringle, 1993, p.210.