Goldie Hawn
Mae Goldie Jean Hawn (ganed 21 Tachwedd 1945) yn actores, cyfarwyddwr a chynhyrchydd o'r Unol Daleithiau sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Mae'n fwyaf adnabyddus am actio mewn ffilmiau comedi poblogaidd yn ystod y 1960au, 1970au, 1980au a'r 1990au.
Goldie Hawn | |
---|---|
Ganwyd | Goldie Jean Studlendgehawn 21 Tachwedd 1945 Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, canwr, cerddor, actor llwyfan, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ffilm |
Prif ddylanwad | Sai Baba of Shirdi |
Taldra | 1.6764 metr |
Priod | Gus Trikonis, Bill Hudson |
Partner | Kurt Russell |
Plant | Oliver Hudson, Kate Hudson, Wyatt Russell |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Crystal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Women of the Year, Hasty Pudding Woman of the Year |
Ei Bywyd Cynnar
golyguFe'i ganwyd yn Washington, D.C., yn ferch i Laura (née Steinhoff), perchennog siop emwaith / ysgol ddawns, ac Edward Rutledge Hawn, cerddor mewn band a chwaraeai mewn digwyddiadau mawrion yn Washington. Cafodd ei henwi ar ôl modryb ei mam. Mae ganddi chwaer, Patricia; a brawd, Edward, a fu farw cyn ei genedigaeth. Ar ochr ei thad, mae Hawn yn ddisgynnydd uniongyrchol i Edward Rutledge, un o arwyddwyr Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Magwyd Hawn ym Mharc Takoma, Maryland. Roedd ei thad yn Bresbyteraidd a'i mam yn Iddewes, yn ferch i fewnfudwyr o Hwngari; magwyd Hawn fel Iddewes.
Dechreuodd Hawn wersi ballet a dawnsio tap pan oedd yn dair oed, a dawnsiodd yng nghorws cynhyrchiad Ballet Russe de Monte Carlo o "The Nutcracker" ym 1955. Perfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf fel actores ym 1961, gan chwarae rhan Juliet yng nghyrchiad Gŵyl Shakesperaidd Virginia o Romeo a Juliet. Erbyn 1964, roedd yn rhedeg a chyfarwyddo ysgol ballet, wedi iddi adael Prifysgol Americanaidd, lle'r oedd yn astudio Drama. Ym 1964, gwnaeth Hawn ei pherfformiad dawns proffesiynol cyntaf mewn cynhyrchiad o "Can-Can" ym Mhafiliwn Texas yn Ffair y Byd Efrog Newydd. Dechreuodd weithio fel dawnswraig broffesiynol flwyddyn yn ddiweddarach, ac ymddangosodd fel dawnswraig go-go yn Ninas Efrog Newydd.
Ffilmograffiaeth
golyguBlwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau eraill |
---|---|---|---|
1968 | The One and Only, Genuine, Original Family Band | Giggly Girl | Credited as Goldie Jeanne. |
1969 | Cactus Flower | Toni Simmons | Gwobr yr Academi - Yr Actores Gefnogol Orau |
1970 | There's a Girl in My Soup | Marion | |
1971 | $ | Dawn Divine | aka Dollars |
1972 | Butterflies Are Free | Jill Tanner | |
1974 | The Sugarland Express | Lou Jean Poplin | |
The Girl from Petrovka | Oktyabrina | ||
1975 | Shampoo | Jill | |
1976 | The Duchess and the Dirtwater Fox | Amanda Quaid/Duchess Swansbury | |
1978 | Foul Play | Gloria Mundy | |
1979 | Lovers and Liars | Anita | |
1980 | Private Benjamin | Pvt. Judy Benjamin/Goodman | Enwebwyd am Wobr yr Academ - Yr Actores Orau |
Seems Like Old Times | Glenda Gardenia Parks | ||
1982 | Best Friends | Paula McCullen | |
1984 | Swing Shift | Kay Walsh | |
Protocol | Sunny Davis | ||
1986 | Wildcats | Molly McGrath | |
1987 | Overboard | Joanna Stayton/Annie Proffitt | |
1990 | Bird on a Wire | Marianne Graves | |
1991 | Deceived | Adrienne Saunders | |
1992 | CrissCross | Tracy Cross | |
HouseSitter | Gwen Phillips | ||
Death Becomes Her | Helen Sharp | ||
1996 | The First Wives Club | Elise Elliot | |
Everyone Says I Love You | Steffi Dandridge | ||
1999 | The Out-of-Towners | Nancy Clark | |
2001 | Town & Country | Mona Miller | |
2002 | The Banger Sisters | Suzette | |
2009 | Ashes To Ashes | Ffilm gyntaf Hawn fel cyfarwyddwr |