Golff yng Nghymru
Mae golff yn gamp boblogaidd yng Nghymru. Gall Cymru recordio ei chyrsiau cyntaf yn ôl i'r 1880au, a heddiw mae ganddi dros 200 o glybiau. Cynhaliwyd y gystadleuaeth golff amatur gyntaf ym 1895 ac roedd y bencampwriaeth broffesiynol gyntaf ym 1904. Mae Cymru wedi cynhyrchu sawl chwaraewr o bwys, gan gynnwys, Ian Woosnam, sydd wedi ennill un o brif bencampwriaethau golff dynion ac mae Cymru wedi ennill Cwpan y Byd i ddynion ddwywaith, ym 1987 a 2005. Cynhaliodd Cymru Gwpan Ryder hefyd, pan gafodd ei gynnal yn y Celtic Manor Casnewydd yn 2010.
Hanes
golyguMae golff yng Nghymru yn olrhain ei wreiddiau i'r 1880au. Adeiladwyd y cwrs cynharaf ym Mhontnewydd yn Sir Fynwy ym 1875, ond cwrs byr oedd hwn. Erbyn canol y 1880au adeiladwyd cyrsiau naw twll mewn sawl safle yng Nghymru ar dir comin arfordirol lle'r oedd y dywarchen yn dderbyniol.[1] Mae sawl safle yn honni ei fod yn gartref i'r clwb golff hynaf yng Nghymru, er y derbynnir yn gyffredinol mai clwb Dinbych-y-pysgod, a ffurfiwyd ym 1888, oedd y cyntaf, gyda thystiolaeth bod y gêm wedi'i ei chwarae yno ers, o leiaf, 1875.[2] Mae cwrs cynnar arall i'w gael yn ymestyn rhwng Borth ac Ynyslas sydd wedi cael ei ddefnyddio ers 1885. Mae cyrsiau eraill o'r 19eg ganrif, unwaith eto i gyd yn arfordirol, yn cynnwys Conwy (1890), Penarth (1890), Porthcawl (1891) ac Aberdyfi (1892). Rhoddodd agor y rheilffyrdd cynnar a'r dwristiaeth gynyddol yng Nghymru gyfleoedd i'r cyrsiau newydd hyn ddenu ymwelwyr. Er, wrth i glybiau golff Cymru gael eu creu a'u rhedeg gan y dosbarth canol i ddechrau, roedd y gamp yn dioddef o'r farn ei fod yn gêm i Saeson ac yn elitaidd.
Ers y dyddiau cynnar, mae Cymru wedi coleddu golffwyr gwrywaidd a benywaidd. Ffurfiwyd Undeb Golff Cymru ym 1895, yr ail hynaf yn y Byd y tu ôl i'w gymar yn Iwerddon;[3] tra sefydlwyd Undeb Golff Merched Cymru ym 1904. Sefydlwyd Golff Cymru,[4] sy'n llywodraethu'r gamp yng Nghymru, yn 2007 ar ôl uno Undeb Golff Merched Cymru ac Undeb Golff Cymru.[5]
Golffwyr Cymreig
golyguDai Rees oedd un o'r golffwyr Cymreig llwyddiannus cyntaf, yn gapten ar y tîm buddugol yng Nghwpan Ryder Ewrop ym 1957. Mae Cymru wedi ennill Cwpan y Byd golff ar ddau achlysur, gyda pharu David Llewellyn ac Ian Woosnam yn codi'r tlws yn Hawaii ym 1987, ac eto yn 2005, gyda Stephen Dodd a Bradley Dredge yn ennill ym Mhortiwgal.
Mae Ian Woosnam yn un o chwaraewyr mwyaf nodedig Cymru. Nid yn unig yn ennill Cwpan y Byd 1987, ef hefyd yw'r unig Gymro i ennill pencampwriaeth fawr, pan gipiodd Cystadleuaeth y Meistri 1991 yn Augusta.[6] Y flwyddyn honno hefyd fe gyrhaeddodd y lle cyntaf ar Restr swyddogol golffwyr gorau'r byd, gan dreulio 50 wythnos ar frig y rhestr, dim ond pedwar golffiwr sydd wedi dal y teitl yn hirach. Yna cyflawnodd Woosnam camp ei gydwladwr Rees pan arweiniodd Ewrop i fuddugoliaeth yn erbyn UDA yng Nghwpan Ryder 2006.[7]
Mae Cymru wedi cyflenwi saith aelod o dimau cwpan Ryder Prydain & Iwerddon ac wedyn Ewrop. Y cyntaf oedd Bert Hodson, a chwaraeodd i dîm Charles Whitcombe ym 1931. Chwaraeodd Hodson mewn un rownd yn unig, gan golli i Denny Shute.[8] Chwaraeodd Dai Rees mewn tri Chwpan Ryder, a'i gapteniaeth ym 1957 oedd yr unig dro i'r Americanwyr gael eu curo rhwng 1933 a 1985.[9] Chwaraeodd Dave Thomas mewn pedair Cwpan Ryder rhwng 1959 a 1967, gan golli dim ond un o'i bum gêm sengl. Chwaraeodd Brian Huggett mewn chwe Chwpan Ryder ac ym 1977 oedd capten nad oedd yn chwaraewr yr ochrau, y tro diwethaf i dîm Prydain & Iwerddon cystadlu yn y twrnamaint. Chwaraeodd Woosnam mewn wyth tîm yn olynol. Yn 2002 fe gurodd Phillip Price Phil Mickelson yn ei gêm senglau. Chwaraeodd Jamie Donaldson yng Nghwpan Ryder 2014, gan guro Keegan Bradley 5 & 3 gan sicrhau bod Ewrop yn ennill y Cwpan.
Chwaraeodd Becky Brewerton yng Nghwpan Solheim 2007 a 2009. Gorffennodd hefyd yn drydydd yn Nhaith Ewropeaidd y Merched 2009.
Twrnameintiau yng Nghymru
golyguCynhaliwyd y twrnamaint amatur cyntaf yng Nghymru ym 1895 yng Nghlwb Golff Aberdyfi ac yna ym 1901 daeth y clwb y cyntaf yng Nghymru i gynnal Pencampwriaeth Golff Amatur Merched Prydain.[2] Roedd y bencampwriaeth golff proffesiynol gyntaf yn Radyr ger Caerdydd ym 1904. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Cymru wedi cynnal sawl digwyddiad golff blynyddol, yn benodol Her Cymru (a sefydlwyd yn 2003), Pencampwriaeth Merched Cymru Ewrop (1996) a Phencampwriaeth Agored Pobl Hŷn Cymru (2001). Er gwaethaf proffil uwch golff yng Nghymru a gynhyrchwyd gan Gwpan Ryder yn 2010, cafodd y tri thwrnamaint eu dileu yn 2011. Ail gynhaliwyd Pencampwriaeth Pobl Hŷn Agored Cymru yn 2012 ar Gwrs Golff Conwy cafodd y twrnamaint ei ddiddymu eto yn 2017. Cynhaliwyd Pencampwriaeth Agored Hŷn Prydain 2014 yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl, y tro cyntaf i'r digwyddiad cael ei gynnal yng Nghymru,[10] dychwelodd y gystadleuaeth i Borthcawl yn 2017.[11] Mae Clwb Golff Brenhinol Porthcawl yn un o'r cyrsiau mwyaf nodedig yng Nghymru ac yn y gorffennol mae wedi cynnal Cwpan Walker 1995, Pencampwriaeth Amatur chwe gwaith a Phencampwriaeth Merched Cymru.
Y Celtic Manor yng Nghasnewydd oedd lleoliad Cwpan Ryder 2010; y tro cyntaf i'r digwyddiad gael ei gynnal yng Nghymru. Curodd Ewrop UDA 14½ pwynt i 13½ yn un o orffeniadau mwyaf dramatig y twrnamaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwnaeth y digwyddiad hanes hefyd trwy fod y Cwpan Ryder cyntaf i ymestyn dros bedwar diwrnod, yn dilyn glaw trwm trwy gydol y penwythnos.[12]
Golff a'r Gofid Mawr
golyguOherwydd cyfyngiadau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i geisio rhwystro lledaeniad Cofid-19 bu'n rhaid i bob clwb golff yng Nghymru cau o 24 Mawrth 2020.[13] O 18 Mai 2020, rhoddwyd caniatâd i glybiau Golff ail agor gyda chyfyngiadau ar bethau megis pa mor bell oedd pobl yn cael teithio i chware a'r nifer oedd yn cael cyd chwarau.[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 325. ISBN 978-0708319543.
- ↑ 2.0 2.1 Jones, Ciaran (15 July 2010). "The history of golf in Wales". walesonline.co.uk. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
- ↑ "Golf Courses in Wales". golfeurope.com. Cyrchwyd 15 February 2012.
- ↑ "Cymraeg". WalesGolf. Cyrchwyd 2020-06-10.
- ↑ "Golf Governing Bodies". Professional Golfers' Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Ionawr 2012. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
- ↑ BBC Wales - Ian Woosnam: A career through the years adalwyd 10 Mehefin 2020
- ↑ Hodgetts, Rob (24 Medi 2006). "Ryder Cup 2006". BBC Sport. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
- ↑ Carradice, Phil (28 Mai 2010). "Welsh Ryder cup players". BBC. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 733. ISBN 978-0708319543.
- ↑ "Wales set to host golf's 2014 Seniors Open". BBC Sport. 2 Medi 2011. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
- ↑ BBC Wales Senior Open Championship to return to Royal Porthcawl in 2017 adalwyd 10 Mehefin 2020
- ↑ "Europe's Ryder Cup victory watched by thousands in sun". BBC News. 4 Hydref 2010. Cyrchwyd 10 Mehefin 2020.
- ↑ "Welsh golf clubs to shut due to COVID-19 crisis". WalesGolf. 2020-03-24. Cyrchwyd 2020-06-10.
- ↑ Guidance for Playing Golf in Wales and UK Under COVID-19 Restrictions[dolen farw] adalwyd 10 Mehefin 2020