Gorchest Gwilym Bevan

nofel gan T. Gwynn Jones

Nofel gan T. Gwynn Jones yw Gorchest Gwilym Bevan. Cafodd ei chyhoeddi fel cyfres yn Y Cymro yn ystod 1899 a daeth allan fel cyfrol yn yr un flwyddyn.[1] Cafodd ei chyhoeddi dros ganrif yn ddiweddarach gan Melin Bapur[2], gyda chyfieithiad Saesneg yn hwyrach yn yr un flwyddyn.[3]

Gorchest Gwilym Bevan
Clawr argraffiad Melin Bapur (2024)
Enghraifft o'r canlynolnofel Edit this on Wikidata
AwdurT. Gwynn Jones
CyhoeddwrHughes a'i Fab (1899)
Melin Bapur (2024)
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1889 Edit this on Wikidata
PwncNofelau Cymraeg
ArgaeleddMewn print

Crynodeb golygu

Ar ddechrau'r nofel mae Gwilym Bevan, ysgolhaig o gefndir tlawd, ar fin cyflawni hunan-laddiad drwy daflu ei hun i'r afon Tafwys yn Llundain. Wedi ei achub rhag hynny gan Gynraes ddiarth aiff Gwilym yn ôl i Gymru a chael gwaith mewn chwarel.

Mae Gwilym yn dwyn anghymeradwyaeth dosbarth canol y dref (ond cymeradwyaeth ei gydweithwyr) pan mae'n siarad o blaid rhoi arian i grŵp o löwyr o Dde Cymru sydd yn streicio. Oherwydd ei boblogrwydd mae'n cael ei ddyrchafu'n arweinydd ar ran y chwarelwyr yn ystod eu anghydfod gyda pherchennog y chwarel, Mr. Morrus.

Mae Gwilym wedyn yn cwrdd â merch Morrus, Olwen, a darganfod mai hi yw'r un a'i achubodd yn Llundain. Yn y cyfamser mae brawd Tomos, y meddwyn Richard Morrus, yn dychwelyd ar ôl bod allan o'r wlad am gyfnod hyd; mae'n dangos diddordeb anesboniadwy yn Gwilym.

Wedi i Joseff, un o'r chwarelwyr, ladd ei hun ar ôl i'w ferch ifanc marw oherwydd eu tlodi, mae Gwilym yn cyhuddo Mr. Morrus o fod yn euog o ladd Joseff; o ganlyniad mae'n cael ei ddiswyddo. Yn fuan wedi hynny daw hi'n streic yn y chwarel; er ei fod wedi'i diswyddo mae Gwylim yn dewis aros gyda'i gyd-weithwyr a chyd-dioddef gyda nhw.

Wrth i'r streic barhau mae'r dioddef yn cynyddu. Mae Arthur Morrus, brawd Olwen a mab Mr. Morrus, yn dychwelyd o'r brifysgol ac yn dechrau cyfeillgarwch gyfa Gwilym. Fodd bynnag, mae Arthur yn colli ei fywyd wrth geisio achub bywydau plant sydd wedi'u dal mewn tân.

Mae'r streicwyr eraill yn dechrau amau Gwilym; mae'n derbyn modrwy fel rhodd gan Olwen (mae'r ddau wedi cwympo mewn cariad gyda'i gilydd) ond mae hyn yn arwain i rai o'r gweithwyr feddwl bod Gwilym yn cyd-gynllwynio gyda Mr. Morrus yn eu herbyn. Caiff Olwen ei hanafu'n ddifrifol wrth i'r dynion geisio dial ar Gwilym; caiff Gwilym ei herlid drwy'r dref gan y gweithwyr dialgar. Mae Gwilym a Mr. Morrus ill dau'n mynd at Olwen yn ei chyflwr bregus, wrth i'r dynion erlid y ddau ohonynt. Maent ar fin cael eu rhwygo'n ddarnau gan y dorf dim ond i gael eu hachub gan Richard Morrus.

Mae Olwen yn marw o'i chlwyfau gan adael Mr. Morrus heb ddim o'i blant a gyda'i holl gyfoeth wedi'i ddifetha gan y streic. Datgelir mai Tad Gwilym yw Richard Morris, sy'n gadael ffortiwn iddo mewn arian a ennillwyd wrth Gamblo. Yn marw ei hunan, oherwydd colli pob gobaith a'i gariad, mae Gwilym yn rhoi'r arian i Mr. Morrus er mwyn iddo ail-gychwyn gwaith yn y chwarel wedi iddo dderbyn termau y gweithwyr. Y weithred derfynol yma yw 'Gorchest' y teitl, sy'n unioni'r gymdeithas a dod â diwedd i'r streic a'i holl dioddef.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Alan Llwyd, Byd Gwynn: Cofiant T. Gwynn Jones (Cyhoeddiadau Barddas, 2019_
  2. Gorchest Gwilym Bevan, Gwefan Melin Bapur
  3. The Great Deed of Gwilym Bevan, Gwefan Melin Bapur