Brenin, tywysog, neu lywodraethwr anghyfiawn, brwnt, creulawn, a didrugaredd yw gormesdeyrn, gormesteyrn[1] neu weithiau deirant.[2] Defnyddir ei awdurdod, gan amlaf mewn unbennaeth neu lywodraeth awtocrataidd, i orthrymu ei ddeiliaid. Gall fod yn arfer awdurdod anghyfreithlon, neu yn arfer awdurdod cyfreithlon mewn modd anghyfreithlon, hynny yw mae'n bosib iddo wedi esgyn i rym drwy frenhinllin, etholiad, chwyldro, trawsfeddiannu, neu unrhyw ffordd arall. Yn aml, rhoddir yr enw ar deyrn sy'n gormesu ei bobl trwy ordrethiad, anghyfiawnder, cosbedigaeth greulon, neu hawlio gwasanaethau afresymol "nid yw deddf na dynoliaeth yn eu cyfreithloni, na dibenion llywodraeth chwaith yn eu gofyn".[3] Arferai'r gair i ddisgrifio arweinwyr i'w beirniadu, megis Ifan IV, tsar Rwsia ("Ifan Arswydus"), Joseff Stalin, a Robert Mugabe.

Cyfeiriadau golygu

  1.  gormesteyrn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 6 Mai 2017.
  2. Geiriadur yr Academi, [tyrant].
  3. John Ogilvie. The Imperial Dictionary of the English Language, cyfrol 4 (Llundain, Blackie & Son, 1883), t. 471 [tyrant]. Hwn yw'r cyfieithiad a geir yn Y Gwyddoniadur Cymreig.

Darllen pellach golygu

  • Daniel Chirot. Modern Tyrants: The Power and Prevalence of Evil in Our Age (Princeton University Press, 1996).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.