Gorsaf reilffordd Glyndyfrdwy

gorsaf reilffordd yng Nglyndyfrdwy, Sir Ddinbych

Yn wreiddiol, roedd gorsaf reilffordd Glyndyfrdwy yn orsaf ar Reilffordd Llangollen a Chorwen, sydd wedi agor ar 8 Mai 1865. Caewyd y lein i deithwyr ar 18 Ionawr 1965. Dymchwelwyd y ddwy blatfform a'r lein, a throwyd y safle yn faes chwarae i blant; gwerthwyd tŷ'r orsaf.

Gorsaf reilffordd Glyndyfrdwy
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlGlyndyfrdwy Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1865 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9762°N 3.2682°W Edit this on Wikidata
Map
Gorsaf Reilffordd Glyndyfrdwy


Ailadeiladwyd y lein, ac agorwyd yr orsaf yn rhan o Reilffordd Llangollen ar 17 Ebrill 1992. Daeth y bocs signal ar ben gorllewinol yr orsaf o'r Bermo. Roedd rhaid adeiladu platfformau newydd, ac ychwanegu hen adeilad o Northwich ym 1992[1]. Mae'r orsaf yn pum milltir i'r gorllewin o Langollen ym mhentref Glyndyfrdwy.


Oriel golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. "tudalen hanes yr orsaf ar wefan aelodaeth Rheilffordd Llangollen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-27. Cyrchwyd 2014-02-04.


Dolenni allanol golygu