Gorsaf Reilffordd Rhuthun
Arferai Gorsaf Reilffordd Rhuthun wasanaethu tref farchnad Rhuthun, Sir Ddinbych rhwng 1862 a 1962. Dyma oedd prif ganolfan y rhan yma o'r lein (Dinbych i Gorwen).
Rhuthun | |
---|---|
Lleoliad | |
Man | Rhuthun |
Ardal | Sir Ddinbych |
Cyfesurynnau | 53°07′01″N 3°18′28″W / 53.11688°N 3.30779°WCyfesurynnau: 53°07′01″N 3°18′28″W / 53.11688°N 3.30779°W |
Yn gweithredu | |
Cwmni gwreiddiol | Rheilffordd Dinbych, Rhuthun a Chorwen |
Grŵp cychwynnol | Gorsaf Llundain a Gogledd Orllewin |
Grŵp olaf | Rheilffordd Llundain, Canol Lloegr a'r Alban |
Platfform | 2 |
Hanes | |
1 Mawrth 1862 | Agorwyd |
30 Ebrill 1962 | Caewyd |
Gorsafoedd rheilffordd wedi'u cau yng Nghymru | |
Gorsafoedd Rheilffyrdd caeedig yng Nghymru |
Roedd ganddo ddwy blatfform, fel y gwelir o'r llun, bae seidin a sied nwyddau a ddefnyddid weithiau fel bae platfform.
Cyn gynted ag y dymchwelwyd yr hen orsaf, codwyd Canolfan Grefft Rhuthun yn ei le; gwelir un o'r craeniau ger y Ganolfan Grefft heddiw - yr unig ôl yr orsaf - ar wahân i leoliad 'Rhes y Rheilffordd'.
Roedd Gorsaf Rhuthun rhwng gorsafoedd Rhewl ac Euarth, ar y daith rhwng Dinbych a Chorwen. Gelwid y rhan yma o'r rheilffordd yn London and North Western Railway. Codwyd Gwersty'r Park Place ar gyfer teithwyr y rheilffordd ar ochr orllewinol y dref, ond newidiwyd cyfeiriad y lein, gan fynd drwy ochr arall y dref, yr ochr ddwyreiniol!
-
Gorsaf Rhuthun yn y c. 1910au
-
1963
-
Y craen ger y Ganolfan Grefft, 2010
-
Gwesty'r Park Place
-
Rhes y Rheilffordd