Agor y brif ddewislen

Terfynfa reilffordd fawr yng nghanol Llundain yw Gorsaf Waterloo Llundain. Mae wedi'i lleoli i'r de o Afon Tafwys ger Pont Waterloo, mae'r orsaf yn gwasanaethu De Lloegr, De-Orllewin Lloegr a gorsafoedd maestrefol Gorllewin Llundain.

Waterloo National Rail logo.svg Underground no-text.svg
Waterloo station main entrance.JPG
Lleoliad
Lleoliad Lambeth
Awdurdod lleol Bwrdeistref Lambeth
Gweithrediadau
Côd gorsaf WAT
Rheolir gan Network Rail
Nifer o blatfformau 19
Cyraeddiadau/gwyriadau fyw a gwybodaeth orsaf
gan National Rail Enquiries
Defnydd teithwyr blynyddol
2009-10 Red Arrow Down.svg 86,397 miliwn
2010-11 Green Arrow Up.svg 91,750 miliwn

Gorsaf Waterloo Llundain yw gorsaf drenau prysuraf y Deyrnas Unedig o ran nifer y teithwyr ac mae'n un o orsafoedd trenau prysuraf Ewrop, gydag 88 miliwn yn teithio drwyddi yn ystod blwyddyn ariannol 2008–09.[1]. Mae'r gwir nifer o deithwyr fodd bynnag yn debygol o fod yn llawer uwch na'r ffigwr hwn, gan nad yw'n cynnwys teithwyr na brynodd docyn na theithwyr y Rheilffordd Danddaearol. Hon yw gorsaf mwyaf Prydain o ran nifer o blatfformau ac o ran arwynebedd llawr. Yr orsaf drenau prysuraf o ran nifer y trenau yw Gorsaf Clapham Junction, a saif bedair milltir i lawr y lein o Orsaf Waterloo Llundain.

Mae'r trefi sydd â gwasanaethau i Waterloo yn cynnwys y canlynol (rhestr anghyflawn):

Lleolwyd y gan "Waterloo Sunset" gan y Kinks yng ngorsaf Waterloo.

Mae gorsaf Waterloo hefyd ar rwydwaith Rheilffordd Danddaearol Llundain, sy'n cysylltu gyda'r orsaf rheilffordd genedlaethol.

CyfeiriadauGolygu

  1. Clinnick, Richard. "Waterloo retains its crown as Britain's busiest railway station", Rail, Peterborough, 21 Ebrill 2010.