Gorsaf reilffordd Croes y De, Melbourne
Mae Gorsaf reilffordd Croes y De un o brif orsafoedd rheilffordd Melbourne, Awstralia, ac mae hi hefyd yn cynnwys gorsaf bysiau ar gyfer talaith Victoria a Maes awyr rhyngwladol Melbourne.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Crux |
Agoriad swyddogol | 17 Ionawr 1859 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+10:00, UTC+11:00 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Docklands |
Sir | City of Melbourne |
Gwlad | Awstralia |
Cyfesurynnau | 37.8184°S 144.9524°E |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 16 |
Nifer y teithwyr | 13,088,849 ±500 (–2009), 14,400,146 ±500 (–2010), 16,930,299 ±500 (–2011), 16,828,202 ±500 (–2012), 17,091,330 ±500 (–2014), Unknown (–2013) |
Rheolir gan | Metro Trains Melbourne |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth ôl-fodern |
Perchnogaeth | VicTrack |
Mae trenau rhyngdaleithiol i Adelaide a Sydney yn defnyddio’r orsaf.
Mae trenau V-Line yn mynd o’r orsaf i Ballarat, Geelong, Bendigo, Gippsland a Seymour, i gyd yn nhalaith Victoria.[1]
Mae’r orsaf ar gylch canolog system Metro Melbourne, felly mae hi’n gwasanaethu pob un o linellau’r Metro.[2] Mae hi hefyd ar gylch canolog rhwydwaith Tramiau Yarra.
Hanes
golyguYr orsaf wreiddiol ar y safle oedd gorsaf reilffordd Batman’s Hill. Newidiwyd enw’r orsaf i Heol Spencer. Dechreuodd gwasanaethau i drenau ym 1859 gyda un platfform. Ycchwanegwyd un arall ym1874. Gosodwyd un trac ar gyfer trenau nwyddau rhwng Heol Spencer a Gorsaf reilffordd Stryd Flinders ym 1879. Ychwanegwyd platfform arall erbyn 1880. Adeiladwyd cysylltiad newydd rhwng y 2 orsaf ym 1891, a dechreuodd trenau i deithwyr rhyngddynt ym 1894. Ychwanegwyd 4 platfform arall rhwng 1918 a 1924. Creuwyd prif adeilad newydd ym 1960, ac adeiladwyd prif blatfform newydd, 413 medr o hyd ar gyfer gwasanaeth newydd ar draciau lled safonol i Sydney. Ail-adeiladwyd ac ail-enwyd yr orsaf Southern Cross yn 2006[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan yr orsaf
- ↑ "Map ar wefan Metro Melbourne" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-01-07. Cyrchwyd 2018-01-07.
- ↑ Gwefan railway-technology.com