Gorsaf reilffordd Holland Arms
Lleolir gorsaf reilffordd Holland Arms ar linell Rheilffordd Ganolog Ynys Môn o Gaerwen i Amlwch. Mae'r orsaf wedi ei lleoli ym Mhentre Berw ac fe'i gelwid yn "Holland Arms" oherwydd y gwesty adnabyddus oedd a'r un enw yn y pentref. Fe wasanaethodd hefyd fel cyffordd llinell gangen Traeth Coch o 1908 ymlaen.
Math | cyn orsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 12 Mawrth 1865 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llanfihangel Ysgeifiog |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2288°N 4.292°W |
Nifer y platfformau | 2 |
Rheolir gan | Rheilffordd Llundain a'r Gogledd-orllewin |
Mae'n rhan o Lein Amlwch (Rheilffordd Ganolog Môn) sef rheilffordd 17.5 milltir (28 cilomedr) sy'n cysylltu Amlwch a Llangefni gyda Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yng Ngaerwen.
Erbyn hyn mae'r orsaf wedi cau. Caeodd y lein i deithwyr ym 1964, ac i draffig nwyddau ym 1993.
|