Gaerwen

pentref ar Ynys Môn

Pentref gweddol fawr yn ne-orllewin Ynys Môn yw'r Gaerwen ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar ffordd yr A5 rhyw bedair milltir i'r gorllewin o bentref Llanfairpwllgwyngyll ac i'r dwyrain o Bentre Berw. Mae'n rhan o gymuned Llanfihangel Ysgeifiog.

Gaerwen
Gaerwen windmill as seen from Church of St Michael, Gaerwen, Anglesey, Ynys Mon, Wales. 12.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2222°N 4.28°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH4675 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)

Mae yna lawer o fusnesi yn y pentref hon, gyda dwy siop leol, "take away" Tseinaidd a Sglodion a physgod, Gwerthwr ceir, MOT ceir, siop offer cartref, tafarn o'r enw 'Gaerwen Arms' ac Ysgol Gynradd Llanfihangel Esgeifiog.

Hyd yn ddiweddar roedd yr holl drafnidiaeth i Gaergybi yn mynd trwy'r pentref, ond ar ôl i ffordd newydd yr A55, sy'n osgoi'r pentref, gael ei hagor mae pethau'n ddistawach.

Mae Stâd Ddiwydiannol y Gaerwen ar ochr orllewinol y pentref, ac mae dwy hen felin wynt i'r gogledd. Ar un adeg roedd Rheilffordd Canol Môn yn gadael y prif reilffordd i Gaergybi yng ngorsaf Gaerwen ac yn arwain tua'r gogledd-ddwyrain i Amlwch.

Pobl o'r GaerwenGolygu

CyfeiriadauGolygu

http://gaerwenarms.co.uk/ Archifwyd 2015-12-06 yn y Peiriant Wayback.

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato