Gorsaf reilffordd Llandaf
Mae gorsaf reilffordd Llandaf wedi ei lleoli yn Ystum Taf yng Nghaerdydd, Cymru. Mae'n gwasanaethu ardaloedd Llandaf a'r Eglwys Newydd. Mae'n orsaf brysur i gymudwyr ac yn rhan o rwydraith y Cymoedd a'r Fro i ganol Caerdydd gan ei bod ar y brif linell i gymoedd Taf, Cynon a'r Rhondda. Mae'r orsaf nawr hefyd yn dod o dan cynlluniau newydd Metro De Cymru.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1840 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ystum Taf |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5085°N 3.2292°W |
Cod OS | ST147795 |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | LLN |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
Perchnogaeth | Network Rail |
Agorodd yr orsaf ym 1840 gan y Taff Vale Railway. Llandaff oedd ei henw gwreiddiol; erbyn 1910 cafodd ei hailenwi yn Llandaff for Whitchurch; cafodd ei hailenwi eto (i’w henw cyfredol) ym 1980.
Yn 2015 dechreuwyd ar fuddsoddiad yn yr orsaf gan agor traphont newydd i hebrwng teithwyr dros y cledrau, canolfan docynnau a lifft newydd.
Er gwaethaf yr enw, dyma'r orsaf drên mwyaf cyfleus i'r rhan fwyaf o drigolion maestrefi yr Eglwys Newydd i'r gogledd o'r linell rheilffordd ac Ystum Taf i'r de o'r cledrau.
Oriel
golygu-
Arwydd yr orsaf gyda brandio newydd Metro De Cymru
-
Hen adeilad yr orsaf