Llwybrau Lleol y Cymoedd a Chaerdydd
Llwybrau Lleol y Cymoedd a Chaerdydd (Saesneg Valleys & Cardiff Local Routes) yw'r rhwydwaith prysur o wasanaethau i deithwyr rheilffordd faestrefol sy'n ymestyn o Gaerdydd, Cymru. Mae'n cynnwys llinellau o fewn y ddinas ei hun, Bro Morgannwg a Chymoedd De Cymru.
Mae'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd gan Trafnidiaeth Cymru. Yn gyfan gwbl, mae'n ei gwasanaethu 81 gorsaf mewn chwe ardal awdurdod unedol: 20 yn ninas Caerdydd, 11 ym Mro Morgannwg, 25 yn Rhondda Cynon Taf, 15 yng Nghaerffili, 8 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 5 ym Merthyr Tudful.
Llinellau
golyguDyma restr o linellau sydd mewn gwasanaeth ar hyn o bryd:
Cangen Tre-Biwt | Llinell Dinas | Llinell Coryton | Llinell Bro Morgannwg |
---|---|---|---|
Llinell Merthyr (Cangen Merthyr) | Llinell Merthyr (Cangen Aberdâr) | Llinell Rhondda | Llinell Rhymni |
---|---|---|---|