Gorsaf reilffordd Merthyr Tudful
Mae Gorsaf reilffordd Merthy Tudful (Saesneg: Merthyr Tydfil) yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Merthyr Tudful ym Morgannwg, Cymru. Mae'n ben taith y gangen Merthyr ar y Llinell Merthyr. Mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu darparu gan Trafnidiaeth Cymru. Mae gan yr orsaf un platfform sydd wedi ei leoli ger Archfarchnad Tesco yn y dref.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Merthyr Tudful |
Agoriad swyddogol | 2 Tachwedd 1853 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Tudful |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7444°N 3.3773°W |
Cod OS | SO050059 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 1 |
Côd yr orsaf | MER |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
Mae gan yr orsaf hefyd faes parcio bychan, swyddfa docynnau, paneli arddangos a safle tacsis. Mae teithwyr sy'n dymuno defnyddio bysiau i gyrchfannau eraill yn gorfod cerdded drwy'r dref at y brif orsaf fysiau.
Ers newid yr Amserlen yng ngwanwyn 2009, mae trenau yn gallu cyrraedd neu wyro o'r orsaf bob hanner awr ar ôl comisiynu dolen basio ger Ynysowen.