Gosen
Enw a roddir yn y Beibl Hebraeg ar y rhanbarth ffrwythlon i ddwyrain aberoedd Afon Nîl yng ngogledd yr Aifft yw Gosen, lle y bu'r Israeliaid yn preswylio am oddeutu 430 o flynyddoedd, rhwng dyfodiad Jacob ac ymadawiad yr Iddewon. Gelwir yn gyffredin Tir Gosen a Gwlad Gosen, a chyfeirir ati hefyd fel Tir Rameses. Nid oes tystiolaeth hynafol o'r enw Gosen ar y rhanbarth hwn ac eithrio'r Beibl ei hun.[1] Mae'n cyfateb i ran orllewinol Wadi Tumilat, neu "Gamlas y Pharoaid".
Math | lle yn y Beibl |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 30.8722°N 31.4775°E |
Yn ôl y traddodiad Beiblaidd, rhoddwyd caniatâd i dylwyth Jacob ymsefydlu yng Ngosen, ardal a oedd yn gefnwlad i'r Hen Eifftiaid, o bosib oherwydd ei phellter oddi wrth y rhwydwaith o gamlesi Nilaidd a gloddwyd i ddyfrhau ffermydd. Yr oedd yr Hebreaid yn dal i fyw yn yr ardal adeg y deg pla, ac oddi yma arweiniodd Moses ei bobl allan o'r Aifft i ddiffeithwch Sinai.[1]
Yn neges Joseff at ei dad y ceir y crybwylliad cyntaf am Gosen: "A chai drigo yng Ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a'th feibion, a meibion dy feibion" (Genesis 45: 10).