Mae gramadeg Lladin, fel ieithoedd Indo-Ewropeaidd hynafol eraill, wedi'i ffurfdroi'n gryf ac felly nid yw'r rheolau cystrawen yn llym iawn. Yn Lladin, mae pum patrwm gogwyddiad ar enwau a phedwar grŵp rhediad ar ferfau. Nid oes banodau gan Ladin ac felly ni wahaniaethir rhwng enwau pendant ac amhendant, er enghraifft, fe ddefnyddir yr un gair i gynrychioli "y ferch" a "merch"; puella.

Y gystrawen gyffredinol yw Goddrych Gwrthrych Berf, ond mae'n newid yn aml ym marddoniaeth a rhyddiaith ar gyfer effaith neu bwyslais. Mae Lladin yn defnyddio arddodiaid ac fel arfer fe leolir ansoddeiriau ar ôl enwau. Yn aml gollyngir rhagenwau oherwydd y gellir dadansoddi'r person o'r rhediad neu'r cenedl; fe ddefnyddir rhagenwau ond pan nad yw'r ystyr yn hollol amlwg.

Berfau

golygu

Mae gan bob berf Ladin nifer o ffurfiau. Mae gan ferfau tri modd (dangosol, gorchmynnol a dibynnol), dau lais (gweithredol a goddefol), dau rif (unigol a lluosog), tri pherson (cyntaf, ail a thrydydd), ac maent yn rhedeg i mewn i chwe phrif amser (presennol, amherffaith, dyfodol, perffaith, gorberffaith a dyfodol perffaith) gyda'r modd dibynnol yn y presennol, yr amherffaith, yr perffaith a'r gorberffaith a'r modd gorchmynnol yn y presennol a'r dyfodol.

Rhediad yw'r broses o ffurfdroi berfau. Rhennir berfau Lladin yn bedwar prif grŵp rhedeg gyda'r terfyniadau annherfynol -āre, -ēre, -ere ac -īre.

Rhagenwau

golygu

Yn Lladin does dim banodau ond ceir rhagenwau dangosol; hic, haec, hoc (hwn, hon, hyn) ac ille, illa, illud (hwnnw, honno, hynny). Fel yn y Gymraeg fe allant ymddwyn fel rhagenwau hefyd. Mae rhagenwau personol hefyd yn bodoli yn y person cyntaf, yr ail berson a'r trydydd person, gyda ffurfiau unigol a lluosog. Yn y trydydd person yn unig y dangosir cenedl.

Mae gan enwau Lladin saith cyflwr; goddrychol, gwrthrychol, genidol, derbyniol, abladol, cyfryngol a chyfarchol; a dau rif gramadegol: unigol a lluosog. Mae pob enw naill ai'n wrywaidd, benywaidd neu ddiryw. Mae enwau yn gogwyddo i bum grŵp. Mae'r rhan fwyaf o enwau yn y gogwyddiad cyntaf yn fenywaidd;[1] mae'r rhan fwyaf yn yr ail ogwyddiad yn wrywaidd a diryw;[2] gall enwau yn y trydydd gogwyddiad fod yn naill ai'n wrywaidd, benywaidd neu ddiryw; mae enwau yn y pedwerydd gogwyddiad fel arfer yn wrywaidd;[3] ac yn y pumed gogwyddiad maent i gyd yn fenywaidd, heblaw am ddau.[4]

  • Fe ddefnyddir y cyflwr goddrychol i ddangos pwnc datganiad:
    servus ad villam ambulat.
    Mae'r caethwas yn cerdded i'r tŷ.
  • Mae'r cyflwr genidol yn mynegi perchnogaeth, mesuriad neu ffynhonnell:
    servus laborat in villa domini.
    Mae'r caethwas yn gweithio yn nhŷ'r meistr.
  • Mae'r cyflwr derbyniol yn dangos gwrthrych anuniongyrchol y frawddeg. Yn y Gymraeg fe ddefnyddir yr arddodiad i i'w dynodi:
    servi tradidere pecuniam dominis.
    Rhoddodd y caethweision yr arian i'r meistri.
  • Mae'r cyflwr gwrthrychol yn mynegi gwrthrych uniongyrchol berf, neu gyfeiriad symudiad ac fe allai fod yn wrthrych rhagddodiaid:
    dominus servos vituperabat quod non laborabant.
    Gwaeddodd y meistr ar y caethweision gan nad oeddent yn gweithio.
  • Mae'r cyflwr abladol yn cyfleu arwahaniad neu ddigyfeiriad:
    dominus in cubiculo dormiebat.
    Roedd y meistr yn cysgu yn ei ystafell wely.
  • Fe ddefnyddir y cyflwr cyfarchol i gyfarch neu gyfeirio at rywun:
    festina, serve!
    Brysiwch, gaethwas!
  • Mae'r cyflwr lleol yn dynodi lleoliad ar/yn, neu'r amser y mae digwyddiad yn digwydd. Mae'r cyflwr hwn yn gyfyng iawn yn Lladin a dim ond enwau rhai llefydd yn Rhufain hynafol sydd â ffurfiau lleol:
    servus Romae erat.
    Roedd y caethwas yn Rhufain.

Ansoddeiriau

golygu

Cystrawen

golygu

Nodiadau

golygu
  1. Mae ychydig yn wrywaidd; does yr un yn ddiryw.
  2. Mae ychydig o enwau benywaidd, yn bennaf enwau dinasoedd a threfi.
  3. Mae grŵp bach o enwau benywaidd a diryw hefyd.
  4. Mae dies, dydd, yn wrywaidd weithiau.