Gogwyddiad gramadegol
Mewn ieithyddiaeth, gogwyddiad yw'r ffurfdroadau sy'n digwydd yn enwau, rhagenwau ac ansoddeiriau sy'n dynodi nodweddion fel rhif (yn aml, unigol yn erbyn lluosog), cyflwr (er enghraifft gwrthrych a goddrych), a chenedl. Mae gogwyddiad yn digwydd yn nifer o ieithoedd y byd ac yn amlwg iawn yn nifer o'r ieithoedd Ewropeaidd.
Gogwyddiad yng ngwahanol ieithoedd
golyguMae gogwyddiad llawer yn llai amlwg yn nifer o'r ieithoedd Indo-Ewropeaidd modern sydd wedi dod yn fwy analytig na'u ffurfiau hŷn.
Cymraeg
golyguNid yw gogwyddiad yn amlwg iawn yn Gymraeg fodern gan ei bod wedi colli'r ffurfdroadau cyflwr a oedd yn bresennol yn Frythoneg. Serch hynny mae enwau Cymraeg o hyd yn gogwyddo yn ôl y rhifau unigol a lluosog. Oherwydd natur ymasiadol y ffurfdroadau yn Gymraeg, mae'r gogwyddiadau yn afreolaidd iawn, er enghraifft, ffordd a ffyrdd, bachgen a bechgyn, merch a merched, tŷ a tai, ci a cŵn, cyfrifiadur a cyfrifiaduron, mab a meibion, car a ceir, ayyb.
Lladin
golygu- Prif: Gogwyddiad Lladin
Mae Lladin yn dangos y saith cyflwr enwol, gwrthrychol, derbynniol, genidol, abladol, cyfryngol a chyfarchol drwy batrymau gogwyddiad cymhleth. Mae yna hefyd ffurfiau lleol o enwau rhai llefydd yn Rhufain hynafol.
Rhoddir enghraifft o ogwyddiadau Lladin gyda ffurfiau unigol y gair homo (dyn), sydd yn perthyn i drydydd gogwyddiad yr iaith Ladin.
- homo (enwol) "[y] dyn" [fel goddrych] (e.e homo ibi stat saif y dyn yno)
- hominis (genidol) "eiddo['r] dyn" (e.e nomen hominis est Claudius enw'r dyn yw Claudius)
- homini (derbyniol) "i/am [y] dyn" [fel gwrthrych anuniongyrchol] (e.e homini donum dedi rhoddais anrheg i'r dyn; homo homini lupus dynoliaeth yw blaidd i ddynoliaeth.)
- hominem (gwrthrychol) "[y] dyn" [fel gwrthrych uniongyrchol] (e.e hominem vidi gwelais y dyn)
- homine (abladol) "o/gyda/yn/gan/wrth [y] dyn" [gyda gwahanol defnyddiau] (e.e sum altior homine rwyf yn fwy na'r dyn).
Fel unrhyw iaith gyda gymaint o ogwyddiadau â Lladin gellir trefnu brawddeg mewn unrhyw ffordd ar gyfer effaith neu bwyslais:
- Hominem vidi ac Vidi hominem - Gwelais y dyn.
Mae gan Ladin nifer o ddosbarthiadau patrymau gogwyddiad, hynny yw, grwpiau o enwau sydd yn rhannu patrymau gogwyddo tebyg. Fe ystyrir Lladin i fod â phum dosbarth gogwyddo.
Almaeneg
golyguMae Almaeneg, fel pob iaith Orllewin Indo-Ewropeaidd wedi dod yn fwy analytig, ond mae hi o hyd yn gogwyddo enwau a'u geirynnau perthynol yn ôl cyflwr yn ogystal â chenedl a rhif. Mae ansoddeiriau yn gogwyddo i mewn i 3 grŵp gogwyddo; cryf, gwan, a chymysg. Isod gweler gogwyddiad y banodau penodol[1]:
- Cyflwr enwol: der (gwrywaidd) die (benywaidd) das (diryw) die (lluosog)
- Cyflwr gwrthrychol: den (gwrywaidd) die (benywaidd) das (diryw) die (lluosog)
- Cyflwr genidol: des (gwrywaidd) der (benywaidd) des (diryw) der (lluosog)
- Cyflwr derbynniol: dem (gwrywaidd) der (benywaidd) dem (diryw) den (lluosog)
Tarddiad terfyniadau cyflwr
golyguMae terfyniadau cyflwr yn tarddu o arddodiaid sydd dros amser yn cael eu "llyncu" i mewn i'r enw. Mae'r un broses o "lyncu" diwedd geiriau yn gyfrifol am yr "erydiad" sy'n digwydd pan gollir y terfyniadau cyflwr[2].
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Griesbach, Heinz / Schulz, Dora (1960): Grammatik der deutschen Sprache, Max Hueber Verlag, München.
- ↑ Deutscher, Guy (2005) The Unfolding of Language Archifwyd 2009-04-23 yn y Peiriant Wayback, William Heinemann, Llundain.