Ieithyddiaeth
Ieithyddiaeth ddamcaniaethol
Seineg
Ffonoleg
Morffoleg
Cystrawen
Semanteg
Semanteg eiriadurol
Arddulleg
Pragmateg
Ieithyddiaeth hanesyddol
Ieithyddiaeth gymdeithasegol
Ieithyddiaeth gymharol
Caffael iaith
Ieithyddiaeth gymhwysol
Ieithyddiaeth wybyddol

Cystrawen (o'r Lladin construenda[1]) yw'r drefn y rhoddir geiriau mewn cymal neu frawddeg mewn gramadeg. Mewn ieithyddiaeth, gall gyfeirio at reolau cyffredinol ar gyfer pob iaith ddynol, neu at gystrawen iaith benodol (e.e. Cystrawen y Gymraeg). Mewn mathemateg, rhesymeg a gwyddor cyfrifiaduron, mae gan ieithoedd ffurfiol cystrawen arbennig eu hunain.

Hanes golygu

Yn y bedwaredd ganrif cyn Crist yn Gandhara, ysgrifennodd Pāṇini ei Aṣṭādhyāyī, astudiaeth gynhwysfawr o ramadeg y Sanscrit. Dechreuodd yr astudiaeth o ramadeg yn Ewrop gyda Dionysius Thrax (170 ‑ 90 CC).

Ym 1660, cyhoeddodd Antoine Arnauld ei Grammaire générale et raisonnée, llyfr mawr ei ddylanwad. Defnyddiodd dulliau rhesymeg glasurol a'u cymhwyso i iaith. Honnodd fod iaith yn adlewyrchiad uniongyrchol o brosesau meddwl, ac mai'r iaith Ffrangeg oedd y ffordd fwyaf naturiol o fynegi syniadau!

Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth tro ar fyd diolch i ganfyddiadau ym maes ieithyddiaeth gymharol. Daeth ieithyddion i sylweddoli maint amrywiaeth ieithoedd y byd am y tro cyntaf, a herwyd y berthynas rhwng cystrawen a rhesymeg. Daeth i'r amlwg nad oedd un ffordd arbennig o fynegi syniad yn fwy naturiol na'r lleill i gyd.

Damcaniaethau Cyfoes golygu

Ar lefel haniaethol, mae sawl ffordd o ymdrin â chystrawen. Yn ôl rhai (Noam Chomsky yn eu plith), astudiaeth o'r wybodaeth ieithyddol sydd wedi'i ymgorffori yn y meddwl dynol yw cystrawen, a'i fod felly yn gangen o Fioleg. Mae Gerald Gazdar ac eraill yn fwy platonistig ac yn honi mai astudiaeth o sustem ffurfiol haniaethol yw cystrawen. Yn olaf, mae rhai ieithyddion fel Joseph Greenberg yn defnyddio cystrawen yn bennaf i ddosbarthu a chymharu ieithoedd.

Dyma'r mathau mwyaf poblogaidd o ddamcaniaethau cystrawennol:

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, argraffiad cyntaf, tud. 817

Dolenni allanol golygu

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Gramadeg categorïaidd, Gramadeg dibyniadol, Gramadeg stocastig, Gramadeg swyddogaethol o'r Saesneg "categorial grammar, dependency grammar, stochastic grammar, functionalist grammar". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.